Mae Prif Weithredwr S4C wedi dweud wrth Golwg bod gwaith y Sianel Gymraeg “yn bwysicach nag erioed” yn y cyfnod corona.
Ac mae Owen Evans wedi datgelu bod “cannoedd” o wylwyr wedi cysylltu i ddangos gwerthfawrogiad.
Fe gafodd y gwasanaeth Hansh i bobol ifanc ar y We filiwn o hits mewn mis am y tro cynaf ym mis Mawrth, ac mae’r Prif Weithredwr yn dweud fod y penderfyniad i ddarlledu oedfa ar y Sul wedi mynd lawr yn dda efo’r gwylwyr traddodiadol.
“Ryden ni wedi cael cannoedd o e-byst mewn gan y gynulleidfa, yn dweud diolch am beth ryden ni’n wneud, ac yn cynnig syniadau, sylwadau,” meddai Owen Evans.
“Felly i fod yn deg, mae’r tîm yn S4C a’r cyflenwyr i gyd yn gweithio oriau mawr ar y funud, i wneud yn siŵr eu bod nhw yn ymdopi.
“Ac mae i’w weld bod y gynulleidfa yn gweld. Achos be ddywedwyd yr holl ffordd trwy hwn yw: ‘Yma i chi mae S4C’.
“A dw i’n credu, mewn sefyllfa fel hyn, mae rôl S4C yn bwysicach nag erioed.”
Miloedd mwy yn gwylio S4C, a “miliynau” ar gael ar gyfer rhaglenni newydd – rhagor gan Owen Evans yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.