Mae dynes gamera o’r Wyddgrug wedi gwneud rhaglen ar un o draddodiadau cyfoethocaf Cymru, a hynny mewn ffordd cwbl gyfoes…

Project cyntaf erioed Snapyn, cwmni teledu newydd Meinir Siencyn, yw’r rhaglen Plygain Go Wahanol. Fe gafodd ei darlledu ar ddydd Calan ac mae i’w gweld ar-lein tan ddiwedd Ionawr, i gyd-daro â thymor arferol y Plygeiniau.