Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad ar effaith y pandemig ar ansawdd aer o fis Mawrth i fis Hydref y llynedd.
Yn ôl yr adroddiad, arweiniodd y cyfyngiadau at aer glannach mewn trefi a dinasoedd ledled Cymru.
Roedd gostyngiad o 36% mewn crynodiadau nitrogen deuocsid a gostyngiad o a 49% mewn nitrogen ocsidiau oherwydd llai o draffig yn ystod dau fis cynta’r cyfyngiadau.
Fodd bynnag, roedd cynnydd hefyd mewn lefelau llygryddion eraill, ac mae’n debyg mai patrwm newid tywydd ddaeth â gronynnau mân llygredig o gyfandir Ewrop.
Ar hyn o bryd, mae amcangyfrif fod ansawdd aer gwael yn cyfrannu at ddisgwyliad oes is, a bod rhwng 1,000 a 1,400 o farwolaethau o ganlyniad i ansawdd aer gwael yng Nghymru bob blwyddyn.
Covid a llygredd aer yn targedu’r bregus
Eglura Lesley Griffiths, Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Cymru, fod anadlu aer glân yn “hawl, nid yn fraint”.
“Rhaid inni gymryd camau pendant a pharhaol yn awr i alluogi cenedlaethau’r dyfodol i fyw bywydau iach,” meddai.
“Yn union fel Covid, mae llygredd aer yn effeithio’n anghymesur ar y rhai mwyaf difreintiedig a bregus yn ein cymdeithas.”
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi Papur Gwyn, y cam nesaf yn y broses o greu Deddf Aer Glân Cymru.
Yn ôl Dr Sarah Jones, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae’r Papur Gwyn yn gwneud “cysylltiad cryf rhwng iechyd ac ansawdd aer”.
“Mae’r Papur Gwyn yn cryfhau ac yn cefnogi ein gwaith i ddiogelu a gwella iechyd pobl Cymru,” meddai.
‘Llawer rhy araf’
Mae elusennau fel Asthma UK a’r British Lung Foundation, y British Heart Foundation a Sustrans Cymru wedi rhannu eu pryderon na fydd y ddeddf yn cael ei chyflwyno tan o leiaf fis Rhagfyr.
Mae hyn yn wahanol i alwadau Air Cymru Iach, gyda chefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, a Phlaid Cymru, i’r ddeddf gael ei chyflwyno o fewn 100 diwrnod i etholiadau’r Senedd fis Mai.
Dywed Joseph Carter, Cadeirydd Awyr Iach Cymru, fod yr amserlen ar gyfer deddfu’r ddeddfwriaeth hon yn “llawer rhy araf.”
“Rydym yng nghanol argyfwng hinsawdd ac argyfwng iechyd ac mae angen gweithredu nawr, nid ym mhen tair blynedd,” meddai.
“Os yw mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac adeiladu dyfodol glanach, gwyrddach ac iachach yn flaenoriaeth wirioneddol gan Lywodraeth Cymru – yna mae angen iddynt weithredu.”
Gwahardd llosgi pren a glo yn y tŷ
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dechrau cyfnod ymgynghori ar losgi tanwydd solet yn y cartref, fel coed a glo.
Mae’r Llywodraeth yn cynnig cyfyngiadau tebyg i’r rhai a gafodd eu pasio gan Lywodraeth Prydain ar gyfer Lloegr fel gwahardd y mathau mwyaf llygredig o danwydd solet sy’n cael eu defnyddio yng Nghymru.
“Nid yw hyn yn ymgais i wahardd defnyddio pren fel tanwydd, nac i wahardd defnyddio stofiau llosgi coed,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Fodd bynnag, rydym yn anelu at roi gwybod i’r cyhoedd am y peryglon a achosir gan ddeunydd gronynnol mân a llygredd aer arall sy’n cael ei ryddhau o losgi ar unrhyw ffurf, a’r niwed y mae’n ei wneud i iechyd a lles pobl Cymru.”