Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi mynegi pryder nad yw’r Swyddfa Gartref yn cydnabod pa mor ddifrifol yw’r amodau byw anniogel mae ceiswyr lloches yn eu hwynebu yng Ngwersyll Milwrol Penalun yn Sir Benfro.
Daw hyn yn dilyn adroddiadau ym mhapur newydd y Guardian yn awgrymu bod gwirfoddolwyr mewn gwersyll tebyg ger Folkestone yn ne-ddwyrain Lloegr wedi cael eu gorfodi i lofnodi cytundebau cyfrinachol dan y Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol.
Mae’r gwersyll ger Folkestone a’r un ym Mhenalun yn cael eu rhedeg gan gwmni Clearsprings.
“Mae angen i Clearsprings a’r Swyddfa Gartref ddatgelu ar frys a ydynt yn gorfodi’r rhai sy’n gweithio ac yn gwirfoddoli ym Mhenalun i lofnodi cytundebau cyfrinachedd, ac os ydynt, rhaid i’r arfer hwnnw ddod i ben ar unwaith,” meddai Alistair Cameron, Ymgeisydd Senedd y Democratiaid Rhyddfrydol dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.
“Does dim rheswm diogelwch cenedlaethol dros orfodi pobol i lofnodi cytundebau cyfrinachedd.”
Cefndir
Cafodd y ffoaduriad cyntaf eu hanfon i farics milwrol Penalun ym mis Medi.
Mae ymateb chwyrn wedi bod i’r penderfyniad, gyda phrotestiadau yn lleol, ac mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford eisoes wedi galw am ddod â’r defnydd o’r gwersyll i gartrefu ceiswyr lloches i ben.
Bu rhaid i Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru, hefyd gydnabod iddo glywed am y cynllun i adleoli ffoaduriaid ym Mhenalun – yn ei etholaeth ei hun – trwy’r awdurdod lleol a gwefan gymdeithasol Facebook, ac nid gan y Swyddfa Gartref.
‘Peryg i’r amodau ddirywio wrth agosau at y gaeaf’
Ychwanegodd Alistair Cameron fod peryg i’r amodau ddirywio a bod angen i ffoaduriaid gael llety cynnes, glân a diogel tra bod eu cais am loches yn cael ei ystyried.
“Byddem yn disgwyl ystyriaeth debyg pe byddai’n rhaid i ni ffoi o’n cartrefi a hawlio lloches dramor,” meddai.
“Bydd yr amodau yn y gwersyll yn dirywio’n gyflym wrth i ni agosáu at y gaeaf.
“Fodd bynnag, dylai hyn fod yn wybodaeth gyhoeddus, yn bennaf oherwydd y bydd llawer o bobol leol yn dymuno helpu’r ffoaduriaid.”
Yn ogystal â phrotestiadau yn gwrthwynebu, mae llawer o bobol leol wedi dod ynghyd i sefydlu grwpiau i gydlynu’r gwaith o gefnogi’r ffoaduriaid.
“Fodd bynnag, yr hyn sydd ei angen arnom mewn gwirionedd yw i’r Swyddfa Gartref drosglwyddo’r ceiswyr lloches i lety cynnes, gweddus a diogel cyn gynted â phosibl,” meddai wedyn.
“Mae gwersyll milwrol yn gwbl anaddas i bobl sy’n ffoi rhag rhyfel, trais ac erledigaeth.”
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda hefyd yn dweud nad yw’r gwersyll yn addas i gynnal pellter cymdeithasol ar gyfer lleihau ymlediad y coronafeirws.