Bu cwymp sylweddol mewn symudedd yng Nghymru yn sgil y cyfnod atal byr diweddar, yn ôl dadansoddiad o ddata Google Mobility gan Ganolfan Lywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae offeryn rhyngweithiol newydd sydd wedi’i ddatblygu gan raglen Dadansoddi Cyllid Cymru, un o raglenni ymchwil Canolfan Lywodraethiant Cymru, yn galluogi defnyddwyr i gymharu data awdurdodau lleol Cymru gyda’i gilydd, a gyda gweddill gwledydd Prydain.

Dyma’r llwyfan cyntaf sy’n caniatáu i aelodau o’r cyhoedd weld tueddiadau symudedd sy’n gysylltiedig â mesurau i atal Covid-19 yng Nghymru.

Effaith sylweddol ar symudedd

Mae’r data’n dangos bod cyfyngiadau’r cyfnod atal byr wedi cael effaith sylweddol ar symudedd pobol, gan leihau ymweliadau â mannau manwerthu a hamddena, gweithleoedd, a pharciau cenedlaethol.

Roedd y data’n dangos bod pobol yn treulio mwy o amser mewn lleoliadau preswyl.

Yn groes i hynny, mae’r data’n dangos bod y cyfyngiadau clo lleol oedd mewn grym cyn y cyfnod atal byr cenedlaethol wedi cael llai o effaith ar symudedd o fewn awdurdodau lleol.

Awgryma hyn fod gweithredu ar lefel genedlaethol yn fwy effeithiol, neu nad oedd y cyfyngiadau lleol mor llym.

Dangosa’r data bod ymweliadau â lleoliadau manwerthu a hamdden yng Nghymru wedi dychwelyd i lefelau cyn-Covid yn gyflymach yn ystod misoedd Gorffennaf ac Awst pan gafodd cyfyngiadau Cymru eu llacio, o’i chymharu â gweddill gwledydd Prydain.

Yn yr un modd, dychwelodd lefelau ymweld â chaffis, bwytai a siopau i lefelau uwch yn gyflym yng Nghymru yn dilyn y cyfnod atal byr.

Mae lefelau ymweliadau yn Lloegr yn parhau i fod yn isel yn ystod eu cyfnod clo cenedlaethol nhw.

“Y cyfnod atal byr wedi cael yr effaith a fwriadwyd”

Dywed Cian Siôn, datblygwr y teclyn rhyngweithiol fod y “data yn dangos i’r cyfnod atal yng Nghymru gael yr effaith a fwriadwyd drwy leihau symudedd a sicrhau bod pobol yn treulio mwy o amser gartref.

“Mae’n ymddangos bod y cyfyngiadau lleol a gyflwynwyd ym mis Medi a Hydref wedi cael llawer llai o effaith ar symudiadau pobol, yn enwedig gan fod y cyfyngiadau’n wahanol ac yn llai llym na’r rhai oedd mewn grym yn ystod y cyfnod atal byr.

“Mae’r tueddiadau hyn yn dangos yr effaith fawr y mae polisïau datganoledig yn ei chael ar fywydau pobol, yn enwedig yng nghyd-destun gwahaniaethau diweddar mewn polisi ar draws gwledydd Prydain.

“Mae Google yn rhyddhau’r data hwn i’r parth cyhoeddus ac mae ein ap gwe newydd yn caniatáu i ddefnyddwyr gymharu symudedd o fewn Cymru mewn modd hygyrch am y tro cyntaf.

“Mae gwella hygyrchedd data ar Covid-19 ac economi Cymru yn un o brif amcanion ein rhaglen ymchwil.”