Mae Tŷ’r Arglwyddi wedi pleidleisio o blaid mesur er mwyn sicrhau bod y llywodraethau datganoledig yn rhan o weithredoedd masnach fewnol gwledydd Prydain wedi i’r cyfnod pontio Brexit ddod i ben.
Pleidleisiodd 319 o blaid, a 242 yn erbyn, gan olygu bod mwyafrif o 77 o blaid gorfodi Llywodraeth Prydain i ymgynghori â llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon cyn bod gweinidogion yn cyflwyno mesurau.
Cafodd y newid hwn i Fil y Farchnad Fewnol ei gyflwyno gan y Blaid Lafur yn San Steffan.
Y mesur
Mae’r diwygiad i’r Bil yn golygu bod rhaid i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon gytuno ar fesurau cyn eu bod yn cael eu pasio, ac mae’n sicrhau na fydd posib rhoi feto ar fesurau.
Os nad yw’r llywodraethau datganoledig yn cytuno o fewn mis, bydd gan weinidogion yr hawl i gyflwyno mesurau ond fod rhaid iddyn nhw gyhoeddi datganiad yn esbonio’u rhesymau.
Mae Bil y Farchnad Fewnol eisoes wedi cael ei drechu sawl gwaith yn Nhŷ’r Arglwyddi, gyda’r Arglwyddi yn pleidleisio o blaid cael gwared ar rannau o’r Bil fyddai wedi caniatáu i weinidogion dorri rhannau o Gytundeb Ymadael yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd yr Arglwydd Callanan, gweinidog busnes Llywodraeth Prydain, fod Llywodraeth Prydain wedi gwrando ar y newidiadau a gafodd eu cynnig i’r Bil.
Mynnodd fod hyn yn “cael gwared ar unrhyw amheuaeth ynglŷn ag ymroddiad y llywodraeth i ymgynghori â’r llywodraethau datganoledig, pe bai’r pwerau’n cael eu defnyddio”.
“Er hynny, ar ôl ymgynghori dylai’r penderfyniadau terfynol gael eu gwneud yn San Steffan, lle mae gwleidyddion Prydain i gyd yn cael trafod a phleidleisio ar y pwerau,” meddai wedyn.
“Digalondid mawr”
Dywed y Farwnes Hayter o Kentish Town, sy’n aelod o’r Blaid Lafur, fod disgwyl i “unrhyw fesur ynghylch masnach yn ymwneud â’r pedair cenedl gael ei wneud mewn partneriaeth â Chymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban”.
“Dydy’r newidiadau ddim yn rhoi feto i unrhyw un o’r llywodraethau datganoledig,” meddai.
“Yn hytrach, mae’r newidiadau yn croesawu’r syniad na ellir gwneud penderfyniadau ar fesurau fyddai’n effeithio Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban heb ymgynghori gyda’u llywodraethau.”
Ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol, rhybuddia’r Arglwydd Bruce o Bennachie fod “digalondid mawr” yn deillio yn sgil yr agwedd mae Llywodraeth Prydain wedi ei dangos tuag at ddatganoli drwy Fil y Farchnad Fewnol.
“Mae’n rhaid i Lywodraeth Prydain gydnabod fod angen mwy nag ymgynghori, ac mae’n rhaid i’r Llywodraeth ymroi er mwyn sicrhau bod datganoli yn gweithio.”
Mae nifer o wleidyddion o Gymru a’r Alban wedi codi cwestiynau ynglŷn ag ymroddiad Llywodraeth Prydain tuag at ddatganoli yn ddiweddar, a phan gafodd Bil y Farchnad Fewnol ei chyflwyno ym mis Medi.
Yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd
Yn nes ymlaen, collodd Llywodraeth Prydain bleidlais arall yn Nhŷ’r Arglwyddi, wrth i’r Arglwyddi bleidleisio o blaid cael un aelod o Gymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn rhan o’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA).
Bydd y CMA yn cadw golwg ar fasnach o fewn gwledydd Prydain, gan gynnig cyngor annibynnol a thechnegol i San Steffan a llywodraethau Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban.
Cyn y bleidlais, dywedodd y Farwnes Hayter fod angen y newid er mwyn sicrhau bod y CMA yn gweithredu ar ran holl wledydd Prydain.
I’r gwrthwyneb, mynnodd Yr Arglwydd Callanan fod newid strwythur y CMA yn “hollol ddianghenraid,” ac y byddai’n creu “cynsail cwbl ddi-fudd.”