Mae rhieni Harry Dunn wedi colli achos yn yr Uchel Lys ynghylch imiwnedd diplomyddol y ddynes oedd wedi lladd eu mab.

Cafodd y dyn 19 oed ei ladd pan gafodd ei feic modur ei daro gan gar Anne Sacoolas, Americanes a gwraig diplomydd 43 oed, ger safle’r Awyrlu yn Swydd Northampton ar Awst 27 y llynedd.

Gadawodd Anne Sacoolas y wlad a theithio i’r Unol Daleithiau ar ôl ychydig wythnosau, ar ôl cael gwybod y gallai hi gael imiwnedd diplomyddol.

Cafodd ei chyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus fis Rhagfyr y llynedd, ond mae’r Unol Daleithiau wedi gwrthod cais “terfynol” i’w hestraddodi i wynebu’r cyhuddiad.

Honiadau

Mae Charlotte Charles a Tim Dunn, rhieni Harry Dunn, yn honni bod y Swyddfa Dramor wedi penderfynu ar gam y dylai Anne Sacoolas dderbyn imiwnedd diplomyddol, a’u bod nhw wedi ymyrryd yn anghyfreithlon yn ymchwiliad Heddlu Swydd Northampton.

Maen nhw’n dweud bod y Swyddfa Dramor wedi cadw’r heddlu “yn y tywyllwch”.

Ond yn nyfarniad yr Uchel Lys, dywed y barnwyr fod gan Anne Sacoolas imiwnedd diplomyddol ar y pryd, ac maen nhw hefyd yn gwrthod yr honiad fod y Swyddfa Dramor wedi hepgor yr heddlu gan ddweud eu bod nhw wedi “ceisio helpu ac nid tarfu” ar yr ymchwiliad.

Daw hyn er i gyfreithwyr geisio dadlau nad oedd rheswm i roi imiwnedd diplomyddol i Anne Sacoolas gan nad oedd ganddi unrhyw ddyletswyddau swyddogol mewn perthynas â’r Awyrlu.

Serch hynny, doedd hi ddim wedi ildio’r hawl i imiwnedd, meddai’r llys.