Mae trydydd gwrandawiad apêl yn erbyn dedfryd Abdelbaset al-Megrahi, bomiwr Lockerbie, yn dechrau yn Uchel Lys Caeredin heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 24).

Cafodd 270 o bobol eu lladd ar hediad Pan Am 103 o Lundain i Efrog Newydd ar Ragfyr 21, 1988.

Cafwyd y swyddog cudd-wybodaeth o Libya yn euog yn 2001, ac fe gafodd ei garcharu am oes gan orfod treulio o leiaf 27 o flynyddoedd dan glo.

Cafodd yr achos ei drosglwyddo gan Gomisiwn Adolygu Achosion Troseddol yr Alban ym mis Mawrth, gan honni bod posibilrwydd nad oed cyfiawnder wedi’i weinyddu.

Cafodd ei fab, Ali al-Megrahi, ganiatâd i apelio o’r newydd ar sail yr honiadau nad oedd y Goron wedi cyflwyno dogfennau allai fod yn allweddol.

Dywed cyfreithiwr ar ei ran fod “y system gyfiawnder troseddol Albanaidd wedi diodde’n rhyngwladol” yn sgil “amheuon” am yr achos.

Yr apêl

Bydd yr apêl gerbron pum barnwr yn cael gwrandawiad o bell.

Fe wnaeth yr Uchel Lys wrthod clywed apêl yn 2002, a chafodd y mater ei drosglwyddo’n ôl bum mlynedd yn ddiweddarach ond fe wnaeth Abdelbaset al-Megrahi roi’r gorau i’r apêl yn 2009 am resymau iechyd.

Fe adawodd e’r carchar yn fuan wedyn, a bu farw o ganser yn 2012 ar ôl cael dychwelyd i Libya.