Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi ymateb i alwad y llywodraethau datganoledig am eglurder ynghylch ariannu cefn gwlad yn y dyfodol.
Maen nhw’n galw ar George Eustice, Ysgrifennydd Defra, i sicrhau bod Llywodraeth Prydain yn cadw at eu haddewidion blaenorol.
Ar drothwy’r Adolygiad Gwariant, mae’r llywodraethau datganoledig wedi ysgrifennu at Lywodraeth Prydain yn galw am sicrwydd na fydd arian Ewropeaidd yn cael ei golli.
“Fe wnaethon ni ysgrifennu at Ysgrifennydd Cymru Simon Hart fwy nag wythnos yn ôl, gan gopïo Ysgrifennydd Defra George Eustice a’r Canghellor i mewn, yn tynnu sylw at bryderon y gallai arian ar gyfer amaeth yng Nghymru gael ei gwtogi’n ddifrifol yn yr adolygiad gwariant i ddod, yn gwbl groes i’r hyn a gafodd ei addo ym Maniffesto’r Ceidwadwyr yn 2019,” meddai Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru.
“Yn y llythyr hwnnw, fe wnaethon ni dynnu sylw at addewid arweinwyr ymgyrch Brexit na fyddai arian amaeth yn cael ei effeithio’n negyddol, a bod Maniffesto’r Ceidwadwyr yn 2019 yn nodi y ‘byddwn yn gwarantu’r gyllideb flynyddol bresennol i ffermwyr ym mhob blwyddyn o’r Senedd nesaf.”
Cefndir y llythyr
Mewn llythyr ar ran Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Phwyllgor Gwaith Gogledd Iwerddon, mae’r llywodraethau datganoledig yn honni bod Llywodraeth Prydain yn cynnig torri’r gyllideb amaeth a chefn gwlad o £364m rhwng 2021 a 2025.
Bydd hyn yn golygu toriadau o £160m i Gymru, £170.1m i’r Alban a £34m i Ogledd Iwerddon.
Mae’r llythyr hefyd yn awgrymu bod y Trysorlys wedi trosglwyddo £49.5m yn llai o’r gyllideb i’r Alban a £42m i Gymru na’r disgwyl.
‘Syfrdanol’
Mae’r ffigurau sydd wedi’u nodi yn y llythyr yn “syfrdanol”, yn ôl Glyn Roberts.
“Os ydyn nhw’n gywir, maen nhw’n golygu ymadawiad llwyr o’r addewid ddim ond deuddeg mis yn ôl yn y cyfnod cyn yr etholiad cyffredinol, ac yn benderfyniad a fyddai’n niweidiol dros ben i amaeth a chymunedau gwledig Cymru ac i enw da Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’i haelodau seneddol etholedig,” meddai.
“Yn naturiol, gobeithiwn y bydd Mr Eustice yn ymateb i’r gweinyddiaethau datganoledig yn rhoi sicrwydd iddyn nhw y byddan nhw’n parchu ymrwymiad 2019.”