Dydy’r union fanylion ddim wedi cael eu cadarnhau eto.
Ond fe fydd Lloegr yn dychwelyd i’r system haenau rhanbarthol o Ragfyr 2, gyda chadarnhad o ba ardaloedd fydd ym mha haenau ddydd Iau (Tachwedd 26).
Bydd pobol sy’n teithio i Loegr yn gallu dod â’u cwarantîn i ben gyda phrawf coronafeirws negyddol ar ôl pum niwrnod o Ragfyr 15.
Bydd pobol sy’n dod o wledydd nad ydyn nhw ar y rhestr gwarantîn yn gallu lleihau’r cwarantîn 14 diwrnod drwy dalu rhwng £65 a £120 am brawf gan gwmni preifat.
‘Dydy’r perygl ddim drosodd eto’
Mewn cynhadledd i’r wasg neithiwr (nos Lun, Tachwedd 23), dywedodd Boris Johnson trwy gyswllt fideo wrth barhau i hunanynysu nad yw’r perygl drosodd eto.
Er bod disgwyl brechlyn erbyn y flwyddyn newydd, mae’n darogan dechrau “anodd” i 2021 ond yn dweud y bydd “pethau’n edrych a theimlo’n wahanol iawn” erbyn y Pasg.
Dywed ei fod yn obeithiol y bydd pawb yn gallu cael brechlyn erbyn Ebrill, wrth i dîm yn Rhydychen ddweud bod eu brechlyn nhw’n 90% effeithiol.
Ond dydy Pfizer na Moderna ddim wedi cael sêl bendith i’w brechlynnau eto.
“Gallwn ni glywed sŵn carnau’r marchoglu’n dod dros ddibyn y bryniau ond dydy nhw ddim yma eto,” meddai.
“Hyd yn oed pe bai’r tri brechlyn yn cael sêl bendith, hyd yn oed os yw’r amserlenni’n cael eu hateb – ac mae brechlynnau’n enwog am gwympo y tu ôl i amserlenni cynhyrchu – bydd misoedd wedi mynd cyn y gallwn ni fod yn sicr ein bod ni wedi brechu pawb sydd angen brechlyn.”
Mae’n rhybuddio “nad dyma’r amser i adael i’r feirws fynd yn rhydd er mwyn partïon Nadolig”.
“Dyma’r tymor i fod yn llawen, ond mae hefyd yn dymor i fod yn ofalus dros ben [“jolly careful“] hefyd, yn enwedig gyda pherthnasau oedrannus.”
Cyfyngiadau newydd
Yn ôl y cyfyngiadau newydd yn Lloegr:
- Bydd pobol yn gallu gadael eu cartrefi am unrhyw reswm, a chymdeithasu â phobol eraill yn yr awyr agored mewn grwpiau o hyd at chwech o bobol. Dim ond pobol yn ardaloedd Haen 1 fydd yn cael cymdeithasu dan do â phobol o’r tu allan i’w haelwyd estynedig.
- Bydd modd addoli a chynnal priodasau eto, gydag uchafswm o 15 o bobol yn bresennol. Ond fydd dim modd cael brecwast priodas yn ardaloedd Haen 3. Bydd modd i 30 o bobol fynd i angladdau, ond 15 o bobol yn unig fydd yn cael ymgynnull mewn lleoliadau wedi’r angladd.
- Fydd dim modd bwyta mewn tafarnau a bwytai yn ardaloedd Haen 3, ond bydd modd i bobol fynd â bwyd oddi yno, tra bydd lleoliadau adloniant, gwestai a llety dan do yn gorfod cau. Yn Haen 2, bydd rhaid i letygarwch gau oni bai ei fod yn fwyty a dim ond gweini wrth fyrddau fydd yn cael digwydd yn Haen 1.
- Os yw lletygarwch yn cael aros ar ago, bydd y cyrffiw 10 o’r gloch yn diflannu, a bydd archebion olaf yn cael eu derbyn am 10 o’r gloch a lleoliadau i gau erbyn 11 o’r gloch.
- Gall siopau gofal personol, megis siopau trin gwallt a salonau harddwch, agor ym mhob haen, a bydd modd i leoliadau adloniant megis sinemâu, theatrau, canolfannau bowlio a chasinos agor yn Haen 1 a 2, ond nid yn Haen 3.
- Gall campfeydd a phyllau nofio agor ym mhob ardal, ond bydd cyfyngiadau’n amrywio o un haen i’r llall ar gyfer dosbarthiadau a chwaraeon i oedolion. Bydd modd gwylio chwaraeon a mynd i’r theatr yn Haen 1 a 2 ond dim ond digwyddiadau gyrru heibio fydd yn cael eu cynnal yn Haen 3.
Mae siopau wedi croesawu’r cyhoeddiad diweddaraf, ond mae lletygarwch a’r celfyddydau wedi mynegi pryder.