Dylai Llywodraeth San Steffan ddarparu “buddsoddiad sylweddol” i borthladdoedd Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn goroesi heriau Brexit.

Dyna mae Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru, wedi ei ddweud yn sgil pryderon am effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar draffig ym mhorthladdoedd y wlad hon.

Cafodd gwasanaeth fferi newydd ei lansio rhwng Rosslare a Dunkirk ddechrau Ionawr, ac ochr yn ochr â hynny mae traffig wedi tawelu yng Nghaergybi, Ynys Môn.

Mae yna bryderon bod mwyfwy o gwmnïau yn dewis osgoi’r Deyrnas Unedig wrth gludo nwyddau rhwng Iwerddon a’r cyfandir (a hynny, oherwydd gwaith papur ychwanegol Brexit, ac ati).

Ac mae Hywel Williams yn credu ei fod yn hen bryd i’r Llywodraeth yn Llundain weithredu.

“Rwy’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu buddsoddiad sylweddol i borthladdoedd Cymru er mwyn sicrhau eu hyfywedd i’r dyfodol,” meddai.

“Os bydd y duedd o ailgyfeirio traffig trwy lwybrau uniongyrchol yn parhau, rwy’n ofni y bydd ein heconomïau lleol yn y gogledd orllewin a’r de-orllewin yn dioddef yn aruthrol.”

Mae hefyd yn dadlau bod y Torïaid wedi “dewis claddu eu pennau yn y tywod” er bod “y golled sylweddol o draffig i lwybrau eraill yn amlwg”.

“Dim tystiolaeth hyd yma”

Mi wnaeth yr Aelod Seneddol holi Michael Gove, gweinidog Llywodraeth San Steffan, am y mater hwn brynhawn ddoe.

Tynnodd Hywel Williams sylw at Gaergybi gan holi am ffigurau ynghylch faint o allforwyr Gogledd Iwerddon sy’n dewis mynd yn syth o Ewrop i Iwerddon.

“Mae’r Aelod yn gywir,” meddai Michael Gove yn ateb i hynny. “Oes, mae yna lwybr newydd rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Ffrainc.

“Ond does dim tystiolaeth hyd yma bod hynny wedi effeithio rhyw lawer ar lif y fasnach [trwy Borthladd Caergybi].”