Mae Tesco wedi cyhoeddi bod gwerthiant dros gyfnod y Nadolig wedi bod yn galonogol er gwaetha cyfyngiadau’r coronafeirws.
Ond mae’r cwmni archfarchnad yn disgwyl i’r pandemig gostio £810 miliwn eleni, gyda chyfyngiadau llymach yn ystod y misoedd diwethaf yn golygu bod y cwmni yn rhagweld bydd y costau’n cynyddu £85 miliwn ychwanegol.
Dywedodd Tesco bod gwerthiant wedi cynyddu 6.1% dros yr 19 wythnos hyd at Ionawr 9, a bod hynny wedi cynyddu i 8.1% yn y chwe wythnos olaf yn arwain at hynny.
Roedd gwerthiant ar-lein wedi cynyddu mwy na 80% dros yr 19 wythnos ddiwethaf, wrth i staff ddosbarthu mwy na saith miliwn o archebion dros y Nadolig.
Yn ôl y cwmni mae eu harchfarchnadoedd mwy wedi gweld cynnydd mewn gwerthiant wrth i gwsmeriaid brynu mwy ond nad ydyn nhw’n siopa mor aml.
Mae Tesco hefyd yn dweud bod cynnydd wedi bod yn nifer y staff sydd yn absennol o’u gwaith oherwydd salwch yn dilyn cynnydd mewn achosion o’r coronafeirws.
Mae tua 30,00 o staff i ffwrdd o’u gwaith ar hyn o bryd oherwydd y firws, tra bod tua 7,000 ohonyn nhw yn ynysu am eu bod yn fwy tebygol o gael eu heintio.