Mae pum sefydliad gofal plant a chwarae yng Nghymru wedi galw am frechu staff.

Mae Cwlwm, y grŵp sy’n cynrychioli’r Mudiad Meithrin, Clybiau Plant Cymru, Blynyddoedd Cynnar Cymru, NDNA a Pacey Cymru wedi galw am roi blaenoriaeth i holl ymarferwyr gofal plant a gwaith chwarae yng Nghymru ar gyfer y brechlyn Coronafeirws.

Yn ôl Cwlwm dylai hyn ddigwydd yr un pryd ag athrawon a staff addysg.

‘Llawer mwy cymhleth nag mewn ysgolion’

Mewn datganiad dywedodd Cwlwm fod hi’n anodd cadw at reolau ymbellhau cymdeithasol wrth ddarparu gofal plant.

“Mae cysylltiad agos rhwng ysgolion a gofal plant ac, drwy gydol y pandemig, maent wedi darparu darpariaeth ddiogel i blant ledled Cymru.

“Er bod cyfraddau trosglwyddo ymysg plant hŷn yn uwch, mae ymbellhau cymdeithasol mewn gofal plant yn llawer mwy cymhleth felly dylid darparu’r un amddiffyniad i ymarferwyr gofal plant a chwarae â chydweithwyr addysg yn yr amserlen frechu.”

‘Dyw athrawon ddim yn wynebu risg uwch’

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno brechlynnau i grwpiau penodol o bobol ar y tro, yn unol ag argymhelliad Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.

Dan y drefn yma mi fydd preswylwyr a staff cartrefi gofal, gweithwyr iechyd a chymdeithasol, a phobol dros 80 oed, fydd yn cael eu blaenoriaethu yn bennaf.

Yn ogystal â staff gofal plant dyw athrawon ddim ymhlith y grwpiau blaenoriaeth chwaith, ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dadlau y dylid eu blaenoriaethu.

Wythnos ddiwethaf bu golwg360 yn holi Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, am hyn.

“Dyw athrawon ddim yn wynebu risg uwch (o ran effeithiau negyddol covid, neu ddiweddu fyny yn yr ysbyty) na gweddill y cyhoedd, na chwaith pobol mewn swyddi eraill,” meddai.

“Felly yn fy marn i, byddai eu symud at frig y rhestr blaenoriaethu yn gamgymeriad.”

Ffigurau brechu diweddaraf

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd fod cyfanswm o 112,973 dos cyntaf o frechlyn Covid-19 wedi cael ei roi erbyn 10pm ddydd Mercher, sy’n gynnydd o 11,602 o’r diwrnod blaenorol.

Dywedodd yr asiantaeth fod 121 o ail ddosau hefyd wedi’u rhoi, cynnydd o 13.

Prif Swyddog Meddygol Cymru yn amddiffyn y rhaglen frechu

Golwg360 wedi holi am oblygiadau’r drefn i athrawon a gweithwyr iechyd