Mae’r Gweinidog Addysg yn “llwyr gefnogol” o’r rhaglen frechu, a’r penderfyniad i beidio â blaenoriaethu athrawon.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno brechlynnau i grwpiau penodol o bobol ar y tro, yn unol ag argymhelliad JCVI (y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu).

A dan y drefn yma mi fydd preswylwyr a staff cartrefi gofal, gweithwyr iechyd a chymdeithasol, a phobol dros 80 oed, yn cael eu blaenoriaethu yn bennaf.

Dyw athrawon ddim ymhlith y grwpiau blaenoriaeth ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dadlau y dylid eu blaenoriaethu.

Mae lle i ddadlau y byddai’n galluogi i wersi nad yw’n rhithiol ddychwelyd yn gynt. Yn siarad â’r Senedd heddiw wnaeth Kirsty Williams bwysleisio ei hymrwymiad i’r rhaglen frechu.

“Dw i’n llwyr gefnogol o waith y JCVI o ran sut y mae wedi adnabod pwy sydd yn wynebu’r risg uchaf o niwed difrifol a marwolaeth o ganlyniad i ddal covi-19,” meddai.

“Bydd aelodau staff, mewn ysgolion a’r rheiny sydd yn cefnogi swyddi addysgiadol, yn derbyn eu brechiadau yn ddibynnol ar lefel y risg maen nhw’n ei hwynebu [h.y ar sail eu hoedran ac iechyd].”

Barn y Prif Swyddog

Wythnos ddiwethaf bu golwg360 yn holi Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, am yr uchod.

“Dyw athrawon ddim yn wynebu risg uwch (o ran effeithiau negyddol covid, neu ddiweddu fyny yn yr ysbyty) na gweddill y cyhoedd, na chwaith pobol mewn swyddi eraill,” meddai.

“Felly yn fy marn i, byddai eu symud at frig y rhestr blaenoriaethu yn gamgymeriad.”

Dywedodd hefyd y byddai’n rhaid israddio grŵp blaenoriaeth arall ar y rhestr o grwpiau pe bai athrawon yn cael eu hychwanegu. A dywedodd nad oedd hynny’n rhesymol.

Gallwch chi ddarllen ei ymateb cyfan, a gallwch weld rhestr gyfan o’r grwpiau blaenoriaeth, islaw.

Prif Swyddog Meddygol Cymru yn amddiffyn y rhaglen frechu

Golwg360 wedi holi am oblygiadau’r drefn i athrawon a gweithwyr iechyd