Mae’r actores a’r sgriptwraig Mirain Llwyd Owen wedi marw yn 47 mlwydd oed.

Roedd yn adnabyddus am ei phortread o Delyth Haf, prif gymeriad ‘Tydi Bywyd yn Boen’ a ‘Tydi Coleg yn Grêt’, ac yn ddiweddarach bu’n un o sgriptwyr Pobol y Cwm a Rownd a Rownd.

Yn ferch i Alwena Owen a’r prifardd Gerallt Lloyd Owen, fe’i magwyd yn Llandwrog gyda’i brawd a chwaer, Bedwyr a Nest, cyn astudio Llenyddiaeth Gymraeg a Llên y Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor.

Bu hefyd yn actio yn Pengelli a Talcen Caled ac yn sgriptio rhai o gyfresi mwyaf cofiadwy S4C, fel Tipyn o Stad ac Amdani.

Yn ddiweddar priododd hi a’i phartner o dros ugain mlynedd, Tim Walker.

‘Y person gorau i mi gyfarfod yn fy mywyd’

“Hi oedd y person gorau i mi gyfarfod yn fy mywyd erioed,” meddai ei gŵr, Tim Walker, wrth Newyddion S4C.

“Mi wnawn ni fethu hi’n fawr iawn,” meddai.

Mae Comisiynydd Cynnwys S4C, Amanda Rees, wedi talu teyrnged iddi.

“Bydd portread Mirain o Delyth Haf, prif gymeriad “Tydi Bywyd yn Boen”  a “Tydi Coleg yn Grêt” yn rhan o atgofion ieuenctid nifer fawr o wylwyr S4C,” meddai.

“Ond bydd llawer o bobl ddim yn sylweddoli fod Mirain wedi parhau i gyfrannu’n sylweddol i’r sianel ar ôl symud tu ôl i’r camera fel un o sgriptwyr Pobol y Cwm am nifer fawr o flynyddoedd.

“Mae colli Mirain mor gynnar yn golled i deledu yn gyffredinol ond yn golled enfawr i’w theulu a’i ffrindiau. Cydymdeimlwn yn fawr gyda Tim a’r teulu oll yn eu colled.”

Ymgyrchydd

Roedd Mirain hefyd yn ymgyrchydd brwd dros annibyniaeth i Gymru, gan wasanaethu ar bwyllgor Yes Cymru.

“Hoffem estyn ein cydymdeimlad dwysaf â theulu a chyfeillion Mirain Llwyd Owen a fu farw heddiw. Mirain oedd aelod rhif 24 o YesCymru a bu ar ein Pwyllgor Canolog yn 2019. Mae’r newyddion creulon yma’n ein hysgogi fwy i ymladd dros Gymru Rydd – dyna fasai Mirain eisiau ei weld,” meddai Yes Cymru ar Twitter.

‘Cydwybodol ac angerddol’

Wrth dalu teyrnged, dywedodd Nest Gwenllian Roberts, Cynhyrchydd Cyfres Pobol y Cwm, wrth Newyddion S4C ei bod hi wastad yn bleser gweithio gyda Mirain Llwyd Owen.

“Yn awdur cydwybodol, roedd hi’n meddwl yn ddwys am bob gair ac er yn dawel, roedd hi’n angerddol tu hwnt,” meddai.

“Bu’n sgriptio i Bobol y Cwm am dros ugain mlynedd. Yn awdur didwyll, roedd ganddi feddwl treiddgar a’i chryfder mawr oedd y ffordd roedd hi’n deall y natur ddynol.

“Gwnaeth gyfraniad helaeth i’r gyfres ac mae gennym atgofion melys tu hwnt o dreulio amser yn ei chwmni. Bydd colled mawr amdani a’i dawn.

“Anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf at Tim ei phartner a’i theulu.”