Mae Emma Page yn rhoi enwau Cymraeg i’w doliau clwt ac yn eu gwerthu i gwsmeriaid ym mhob cwr o’r byd…

“Mae’r doliau yn rhan o fy mreuddwyd i symud nôl adref i Gymru i fyw yn y dyfodol agos,” meddai Emma Page, sy’n dod o Lanbedrog ym Mhen Llŷn yn wreiddiol ac, ar hyn o bryd, yn byw yn Sir Northampton.