Mae Golwg a S4C wedi cyhoeddi cytundeb arloesol i gyhoeddi a churadu straeon newyddion ar y cyd.

Fel rhan o wasanaeth newyddion digidol newydd sbon Newyddion S4C, bydd cynnwys gan sawl ffynhonnell wahanol ar gael yn yr un lle am y tro cyntaf.

Yn ogystal â straeon o raglen Newyddion S4C, a gynhyrchir gan BBC Cymru, bydd y gwasanaeth newydd hefyd yn cyhoeddi straeon gan Golwg360 ac ITV Cymru.

‘Arloesi’

Eglurodd Sian Powell, Prif Weithredwr Golwg, fod newyddiaduraeth gyfredol yn hanfodol yn ystod y pandemig.

“Rydym yn falch o allu cydweithio efo S4C wrth iddynt greu gwasanaeth newyddion digidol newydd,” meddai.

“Mae newyddiaduraeth yn profi i fod yn hanfodol yn ystod yr argyfwng ac mae’n bwysig bod newyddiaduraeth yng Nghymru yn parhau i arloesi er mwyn sicrhau fod y darllenwyr yn cael y wybodaeth fwyaf cyfredol.

“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu darllenwyr newydd i’n straeon newyddion Golwg360 trwy ap a gwefan S4C.”

‘Rhannu arbenigedd ac adnoddau’

“Mae’n holl bwysig i S4C fel darlledwr cyhoeddus i allu cynnig y newyddion diweddaraf i’r gwylwyr ar flaenau eu bysedd” meddai Geraint Evans, Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes S4C.

“Mae’r dyddiau o aros i wylio prif raglen newyddion y sianel yn y nos wedi hen ddiflannu ac mae angen i ni fod yn flaengar wrth sicrhau ein bod yn gallu cynnig gwasanaeth newyddion ar amryw o blatfformau.

“Mae cydweithio gyda Golwg yn golygu ein bod yn gallu rhannu arbenigedd ac adnoddau, gan fod â bys ar byls newyddion lleol a chenedlaethol. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio gyda Golwg a’r partneriaid eraill ar y gwasanaeth hwn fydd yn cynnig llais newyddion newydd i Gymru.”

Bydd y gwasanaeth newydd yn lansio fis Mawrth.