Bydd pob cartref yng Nghymru yn derbyn llythyr cyn hir â gwybodaeth ynglŷn â chynlluniau brechu Llywodraeth Cymru.
Bydd y llythyron yn cynnwys gwybodaeth am sut y mae’r brechlynnau covid yn cael eu dosbarthu, a sut y bydd pobol yn cael eu gwahodd i apwyntiadau.
Mae pobl yn cael eu hannog i aros eu tro ac i beidio â chysylltu â’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) na gwasanaethau iechyd i ofyn am frechlyn.
Pan fydd unigolion, yn y pendraw, yn derbyn eu gwahoddiad i gael eu brechu byddan nhw’n cael gwybod ymhle y byddan nhw’n derbyn y brechiad.
Gall hynny fod mewn ysbyty, canolfan frechu neu yn eu meddygfa leol.
“Achub bywydau”
“Mae brechlynnau yn achub bywydau ac, yn y pandemig hwn, gallent newid ein bywydau ni i gyd,” meddai Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd.
“Ond, wrth inni fwrw ati’n gyflymach i gyflwyno’r brechlynnau ym mhob cwr o Gymru, mae’n bwysicach nag erioed inni ddilyn y rheolau a chadw ein hunain yn ddiogel.
“Mae hynny’n golygu aros gartref a gweithio gartref; cadw pellter rhag pobl eraill; golchi ein dwylo’n aml, ac, os oes rhaid inni fynd allan, gwisgo masg pan fyddwn ni mewn mannau cyhoeddus.”
Twyllwyr
Rhaid derbyn dau ddos o frechlyn covid, a dan gynlluniau Llywodraeth Cymru bydd y bwlch rhwng y dosys hyd yn para hyd at 12 wythnos.
Hyd yma mae 101,000 wedi derbyn un dos o frechlyn covid, ac mae’r Llywodraeth yn gobeithio y bydd pob oedolyn cymwys yng Nghymru wedi cael cynnig brechlyn erbyn yr hydref.
Ochr yn ochr â’u cyhoeddiad am y llythyron mae Llywodraeth Cymru wedi galw ar y cyhoedd i fod yn wyliadwrus o dwyllwyr sydd yn honni eu bod yn gweithio ar ran y GIG.
Fydd y GIG byth yn holi i unrhyw un dalu am y brechlyn – nac am fanylion banc chwaith – a dylid anwybyddu unrhyw negeseuon amheus.