Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi rhoi croeso “gofalus iawn” i ystadegau covid diweddar.
Wrth annerch y wasg brynhawn heddiw dywedodd Dr Frank Atherto bod “arwyddion calonogol” bod “coronafeirws yn dechrau sefydlogi yng Nghymru”.
Mae yna 410 achos i bob 100,000 o bobol yng Nghymru bellach, sydd yn gwymp o’r 650 i bob 100,000 yng nghanol mis Rhagfyr.
Ac mae un o bob pump sydd yn cael eu profi am Covid yn cael canlyniad positif – sydd yn gwymp o’r un o bob pedwar a gofnodwyd yr wythnos ddiwethaf.
Mae’r uwch swyddog hefyd wedi croesawu’r newyddion bod 101,000 bellach wedi derbyn un dos o frechlyn Covid, ond mae’n rhybuddio bod angen dehongli’r ffigurau yma yn “ddifrifol iawn”.
“Mae angen bod yn ofalus â’r newyddion da,” meddai. “Mae yna wastad dro yn y gynffon â choronafeirws.
“Dydyn ni’n dal ddim yn siŵr i ba raddau mae’r amrywiolyn newydd wedi lledaenu yng Nghymru. Rydym yn gwybod ei fod wedi ymgartrefu yn y Gogledd.
“Yn y De, mae mwy na thebyg yn dal i ledaenu. Felly dydyn ni ddim yn siŵr faint yn rhagor y bydd yn lledaenu yn y De. Rydym wrthi’n ymchwilio i hynny.”
Dywedodd Dr Atherton hefyd ei bod yn “dda” bod data symudedd yn dangos bod lefelau teithio o gwmpas a gadael ardaloedd yn debyg i’r hyn a welwyd yn ystod y cyfyngiadau clo o bythefnos rhwng 23 Hydref a 9 Tachwedd.
Tristwch
Tynnodd sylw hefyd at y “newyddion gwael iawn” bod lefelau marwolaethau ywchwanegol (excess deaths) ar eu huchaf yn y DU (ffigurau 2020) ers yr Ail Ryfel Byd.
Ac mi rannodd ei dristwch ynghylch ystadegau marwolaethau’r wlad hon: yr wythnos hon fe wnaeth Cymru basio’r trothwy o 5,000 o farwolaethau covid.
Ffigurau sobor Dr Goodall
Bu Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru, hefyd yn annerch y wasg yn ystod y gynhadledd. Rhoddodd yntau hefydd ddiweddariad o sefyllfa Covid a’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru:
- Mae 14 o ysbytai bellach â statws lefel tri neu bedwar – y ddwy lefel uchaf
- Mae’r nifer o bobol mewn ysbytai â symptomau coronafeirws wedi parhau i godi dros y bythefnos ddiwethaf
- Bellach mae yna 2,870 o gleifion covid yn ysbytai Cymru (y lefel uchaf a gofnodwyd)
- Mae 1/3 o welyau ysbytai â chleifion Covid ynddyn nhw
- Mae 15% o alwadau ambiwlans yn faterion sy’n ymwneud â coronafeirws
- Mae’r GIG yn derbyn 10% yn rhagor o alwadau 111 oherwydd y pandemig
- Mae 150 mewn unedau gofal critigol gyda coronafeirws
- Mae 2/3 o gleifion gofal critigol â choronafeirws
- Oedran pobol mewn gofal critigol ar gyfartaledd yw 59
- Mae 38% o gleifion covid sydd angen gofal critigol yn marw
Wrth grynhoi’r ffigurau, dywedodd Dr Goodall: “Rydym bellach yn uwch na dwbl yr uchafbwynt a gawsom yn ystod y don gyntaf ym mis Ebrill. Ar y lefel honno, bydd yn rhaid i’r GIG wneud rhai penderfyniadau anodd iawn am gydbwysedd y gwasanaethau y gall eu darparu.”
“Mae’r wythnosau diwethaf wedi bod anodd iawn i staff ledled y GIG. Mae lefelau uchel o achosion cadarnhaol yn y gymuned yn arwain at fwy o dderbyniadau i’r ysbyty, mwy o gleifion difrifol wael, gan gynnwys mewn gofal critigol, ac yn y pen draw at fwy o farwolaethau,” ychwanegodd.
Brechiadau 24 awr?
Dywedodd Dr Andrew Goodall fod “cam i fyny” wedi bod o ran y cyflenwad o’r brechlyn, yn enwedig brechlyn Rhydychen/AstraZeneca, gyda chynnydd mewn safleoedd brechu, dyddiau ac oriau.
“Rwy’n credu’n gyntaf fod angen i ni ymestyn yr oriau a sicrhau eu bod ar gael, ond os ar ryw adeg yn ystod yr ymateb hwn – yn enwedig dros y pedair i chwe wythnos nesaf – teimlwn fod cyfle i wneud pethau ar sail 24/7, yna byddem yn gwneud hynny os mai dyna’r ffordd yr ydym yn cyflawni’r gweithgaredd,” meddai Dr Goodall.
Ychwanegodd Dr Frank Atherton: “Byddwn yn disgwyl i fyrddau iechyd lleol fod yn hyblyg yn eu hymagwedd ac edrych yn wirioneddol ar y galw.
“Os oes galw, galw gwirioneddol, am oriau agor pellach, yna byddwn yn disgwyl iddynt gwrdd â’r rheini.”
‘Mor gyflym ag y gallwn ond mor ddiogel ag y gallwn’
Dywedodd Dr Atherton y byddai’n dibynnu ar y cyflenwad o’r brechlyn, yn ogystal ag argaeledd staff.
“Mae angen i ni sicrhau nad ydym yn dadsefydlogi’r GIG drwy gynyddu gweithgarwch mewn mannau eraill,” meddai Dr Atherton.
“Byddwn yn mynd mor gyflym ag y gallwn ond byddwn yn mynd mor ddiogel ag y gallwn a byddwn yn mynd mewn ffordd sy’n osgoi gwastraff cymaint ag y gallwn – mae’r tri pheth hynny’n bwysig iawn i ni.”
Canslo apwyntiadau
Yn y cyfamser, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi dweud y bydd yn sefydlu llinell gymorth i bobl ganslo eu hapwyntiadau brechu ar ôl i 19 o bobl beidio troi fyny ddydd Llun.
Dywedodd Fiona Kinghorn, cyfarwyddwr gweithredol iechyd cyhoeddus y bwrdd iechyd, wrth BBC Radio Wales ei bod hi’n “rhwystredig” nad oedd pobl dod, a dywedodd bod angen “ymchwilio pam mae hynny’n digwydd.”
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod nifer y dosau sydd wedi’u taflu i ffwrdd hyd yma oherwydd nad ydynt yn cael eu defnyddio yn llai nag 1%, sydd, yn eu barn nhw, yn sylweddol is na’r lefelau disgwyliedig o tua 5% neu fwy.
Mae byrddau iechyd ledled Cymru yn defnyddio rhestrau wrth gefn yn achos apwyntiadau a ganslwyd, er y bu achosion o bobl nad ydynt mewn grwpiau blaenoriaeth yn cael eu galw i lenwi slotiau gwag.