Wrth i ni sleifio’n flêr braidd allan o ddrws cefn yr UE, rydym wedi dysgu na fydd gan genhedloedd y Deyrnas Unedig fynediad bellach at y gronfa o gyfleoedd cyfnewid addysgol y mae Erasmus wedi’u cynnig.

Bydd hon yn dipyn o ergyd i fyfyrwyr Cymru, ond hefyd i’r miloedd o bobl ifanc difreintiedig sydd eisiau mentro dramor i gyfoethogi eu dysgu. Wrth i ni adael y cynllun amlweddog a chynhwysol i bawb, sef Erasmus, mae’n rhaid i ni sicrhau y bydd y cynllun newydd yn dangos yr un uchelgais wrth ddarparu ‘elfen fyd-eang’ i’n dinasyddion.

Mae cwmpas rhaglen Erasmus yn llawer mwy na chyfrwng cyfnewid myfyrwyr yn unig, mae’n cynrychioli ‘dwysáu rhyngwladoli dysgu’[1] ar bob lefel. Mae’r cynllun wedi gweld cynnydd digynsail mewn cydweithredu addysgol byd-eang, gyda mwy na 10,000 o fyfyrwyr a staff o Gymru yn cymryd rhan rhwng y blynyddoedd 2014 a 2018 yn unig.

Mae darpariaeth semestrau astudio dramor yn ganolog i brofiad gradd llawer o fyfyrwyr, gan ategu amrywiaethau diwylliannol ac iaith sy’n hollbwysig i fod yn ddinasyddion byd-eang brwd. Yng Nghymru, mae’r bartneriaeth addysgol wedi gweld gwerth dros 40 miliwn Ewro o fuddsoddiad ers 2014, gan arwain at ddatblygu 248 prosiect yn ein gwlad[2]. Mae sefydlogi a meithrin partneriaethau academaidd newydd yn hollbwysig, ond bydd angen eu seilio ar y sylfaen cynhwysiant byd-eang a domestig yr oedd Erasmus yn ei chynnig.

‘Gwell dealltwriaeth o ddiwylliannau tramor’

Mae graddedigion sydd wedi bod yn rhan o’r cynllun yn datblygu gwell dealltwriaeth o ddiwylliannau tramor ac yn gallu bod yn rhyw fath o bont rhwng diwylliant Cymru a’r gymuned fyd-eang. Gan eu bod yn dueddol o ddysgu iaith dramor, maent wedi meithrin rhwydweithiau rhyngwladol, sydd o fudd iddyn nhw yn ogystal â Chymru fel cenedl.

Hefyd, mae’r rhai sy’n manteisio ar y rhaglen yn llawer mwy tebygol o fod wedi datblygu sgiliau arloesol; gan arwain at ddatblygu busnes newydd a oedd yn elwa ar y rhwydweithiau a sefydlwyd tra ar y cynllun. Gall manteision y rhaglenni hyn fod yn amlwg wrth edrych ar y ffigurau, ond mae’r prosiect hwn yn talu ar ei ganfed gan ddatblygu ac ysbrydoli amlbwrpasedd economaidd a diwylliannol ein cenedl.

Rhwng 2021 a 2027, mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi cynnig dyblu cyllideb y rhaglen, law yn llaw â chynnig opsiynau mwy tymor byr a hyblyg ar gyfer astudio dramor. Mae’r cynigion hyn yn targedu myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig, a allai fod heb y modd i gymryd rhan heb y darpariaethau hyn. Mae’r Prif Weinidog Johnson wedi awgrymu y bydd Cynllun Turing yn galluogi aelwydydd incwm isel i gael y cyfle i fanteisio ar yr un cyfleoedd, ond nid yw’r manylion yn hysbys eto.

Cynllun Turing: targedu’r Prifysgolion gorau yn y byd?

Mae angen efelychu darpariaethau Erasmus+; oherwydd bydd galluogi cyfnewid ar sail addysgu a galwedigaethol drwy grantiau atodol, yn tynnu sylw at uchelgeisiau amrywiol y prosiect. Mae’n rhaid i ni hefyd roi rhaglenni lleoliad gwaith ar waith, sydd wedi’u cynllunio ar gyfer y rhai na fyddai’n gallu cymryd rhan heb ffynhonnell incwm ddibynadwy yn ystod yr amser a dreulir dramor.

Mae Llywodraeth y DU wedi honni y bydd Cynllun Turing yn targedu nid yn unig Prifysgolion Ewropeaidd, ond y Prifysgolion gorau yn y byd[3]. Mae’n rhaid i ni fynd i’r afael hefyd â’r tebygolrwydd na fydd gan aelwydydd difreintiedig y modd y deithio i Brifysgolion yng Ngogledd America, o’u cymharu â chyrchfannau mwy fforddiadwy Ewrop.

Fel cenedl sy’n edrych tua’r dyfodol, dylai’r rhaglen newydd dynnu sylw ar yr hyn y mae rhwydweithiau addysg cydweithredol yn ei roi i ni, ond mae’n rhaid i ni beidio ag esgeuluso’r hyn rydym yn ei roi yn ôl. Mae addysg ddwyochrog yn gofyn i ni roi’r gallu i fyfyrwyr tramor brofi ein cymysgedd unigryw ni ein hunain o ddysgu, arloesi a diwylliant tra’n astudio mewn athrofeydd yng Nghaerdydd, Prifysgol De Cymru neu Aberystwyth.

‘Dau gyfeiriad’

Mae naws dau gyfeiriad cynllun Erasmus wedi’i anwybyddu yn y cynllun newydd; felly, dylid blaenoriaethu trosglwyddiad diwylliannol ac academaidd i’n hathrofeydd ein hunain. Drwy wneud hyn, bydd y ‘gwesteion’ hyn yn meithrin cysylltiadau dwfn â Chymru, yn cyfrannu ar ein cyfoeth diwylliannol ac – rwyf wedi gweld hyn yn digwydd gyda fy llygaid fy hun – fe fyddant hyd yn oed yn penderfynu aros yma a datblygu eu busnesau, meithrin swyddi a magu eu teuluoedd.

Er nad yw pŵer gwario myfyrwyr tramor yn cael ei drafod yn aml, mae’r amrywiaeth o syniadau sy’n cyfoethogi ystafelloedd dosbarth a chymunedau yn cael eu trafod hyd yn oed yn llai aml. Er mwyn gwneud ein gorau i sicrhau allgymorth addysgol byd-eang, mae’n rhaid i ni wireddu manteision allforio ein galluoedd diwylliannol ac academaidd ni ein hunain, law yn llaw â phwysigrwydd mewnforio galluoedd eraill. Mae atyniad ein hathrofeydd i fyfyrwyr tramor i’w gweld yn eu tystiolaeth anecdotaidd, ac yn anffodus ni fydd sloganau annelwig megis ‘meddwl yn fyd-eang’ yn gwneud llawer i gymryd lle hyn.

Mae Erasmus yn golled enfawr i’r DU, ac i Gymru. Byddai hyd yn oed yr arsylwyr mwyaf didaro yn dweud bod Llywodraeth y DU wedi gwneud camgymeriad mawr wrth benderfynu peidio â’i barhau. Felly, mae’n rhaid ni sicrhau bod y cynllun newydd o leiaf yr un mor bwerus o ran ei fanteision i unigolion, i gyflogwyr ac i athrofeydd.

I Gymru fel cenedl, heb sôn am y DU, mae hwn yn brawf tyngedfennol i ddangos sut rydym yn gweld ein hunain fel gwlad flaengar a chroesawgar, sy’n gweithio gyda chenhedloedd eraill i dyfu gyda’n gilydd.

*

[1]  Hywel Ceri Jones: Cyn Gyfarwyddwr Addysg, Hyfforddiant ac Ieuenctid (2020). A missed opportunity for the young people of the UK: Yr Ymddiriedolaeth Ffederal dros addysg ac ymchwil. https://fedtrust.co.uk/erasmus-a-missed-opportunity/

[2] Llyw.Cymru: Erasmus+ a PHAPUR ESF EAG (2019) https://gov.wales/sites/default/files/publications/2019-08/erasmus%2B-and-european-social-fund.pdf

[3] P. Maguire (2020) Boris Johnson: The Turing scheme to replace Erasmus will give students pick of the world: The Times; https://www.thetimes.co.uk/article/boris-johnson-turing-scheme-to-replace-erasmus-will-give-students-pick-of-the-world-gsnkxf0sf