Bydd archfarchnadoedd yng Ngogledd Iwerddon yn wynebu prinder cynnyrch ar y silffoedd o’r newydd oni bai bod yr Undeb Ewropeaidd yn barod i ymestyn y “cyfnod gras” yng nghytundeb masnach Brexit, mae manwerthwyr wedi rhybuddio.
Dywedodd cyfarwyddwr Consortiwm Manwerthu Prydain, Andrew Opie, bod y problemau oedd wedi arwain at brinder rhai cynhyrchion bwyd yn dilyn diwedd cyfnod pontio Brexit ar Ragfyr 31 wedi’u goresgyn i raddau helaeth.
Ond wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Brexit Tŷ’r Cyffredin, dywedodd y gallai fod anawsterau newydd ym mis Ebrill pan ddaw cyfres o eithriadau yn y cytundeb masnach ar nwyddau sy’n cael eu symud i Ogledd Iwerddon o Brydain Fawr i ben.
“Aflonyddwch sylweddol”
“Os nad ydyn ni’n dod o hyd i ateb ymarferol i fanwerthwyr yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf byddwn ni’n wynebu aflonyddwch sylweddol yng Ngogledd Iwerddon,” meddai.
Dywedodd fod archfarchnadoedd oedd yn allforio i Weriniaeth Iwerddon wedi canfod bod y system yn “anymarferol” o ran eu cadwyni cyflenwi.
“Mae anfon lasagne o Brydain Fawr i Weriniaeth Iwerddon mor gymhleth. Mae’n rhaid i chi gael awdurdodiad yn mynd i fyny drwy’r gadwyn, mae’n rhaid i’r milfeddyg ar y diwedd ei lofnodi ac mae’n rhaid iddo weld yr holl awdurdodiadau.”
Mae angen rheolaethau ar nwyddau sy’n symud i Ogledd Iwerddon o weddill yr Undeb Ewropeaidd o dan delerau’r cytundeb y cytunwyd arno gan Boris Johnson ar Noswyl Nadolig er mwyn sicrhau nad oes dychwelyd i ffin galed gyda’r Weriniaeth.
“Bydd pethau’n gwaethygu”
Rhybuddiodd Prif Weithredwr y Ffederasiwn Bwyd a Diod, Ian Wright, y byddai’n rhaid i’r diwydiant ailfeddwl am ei holl lwybrau cyflenwi heb newidiadau i’r cytundebau, gan arwain at gostau ac oedi cynyddol.
“Oni bai bod y cytundeb yn newid mewn rhyw ffordd berthnasol rydym yn mynd i weld ail-strwythuro bron pob cadwyn gyflenwi rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig a Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr dros y chwe mis nesaf,” meddai.
Dywedodd fod un cyflenwr rhyngwladol wedi canfod bod y gwaith papur ar gyfer llwyth sy’n symud o’r Deyrnas Unedig i’r Undeb Ewropeaidd a fyddai fel arfer wedi cymryd tair awr i’w gwblhau wedi cymryd pum niwrnod hyd yma – ac roeddent yn dal i weithio arno.
Mynegodd Ian Wright bryder hefyd am y posibilrwydd o oedi ym mhorthladdoedd y Sianel wrth i nifer y lorïau sy’n croesi godi dros y misoedd nesaf.
“Bydd pethau’n yn gwaethygu. Ar hyn o bryd mae tua 2,000 o lorïau yn teithio. Dylai fod tua 10,000, felly mae’r cyfle i raddfa’r pryderon godi yn enfawr,” meddai.