“Does dim tystiolaeth hyd yma” bod llwybr masnach rhwng Iwerddon a’r cyfandir wedi cael effaith negyddol ar draffig porthladd Caergybi.

Dyna ddywedodd Michael Gove, gweinidog o Lywodraeth San Steffan, ar ôl cael ei holi am y mater gan Hywel Williams, AS Plaid Cymru, y prynhawn yma.

Cafodd gwasanaeth fferi newydd ei lansio rhwng Rosslare a Dunkirk ddechrau Ionawr, ac ochr yn ochr â hynny mae traffig wedi tawelu yng Nghaergybi, Ynys Môn.

Tynnodd Hywel Williams sylw at Gaergybi gan holi am ffigurau ynghylch faint o allforwyr Gogledd Iwerddon sy’n dewis mynd yn syth o Ewrop i Iwerddon.

Holodd hefyd os oes asesiad wedi’i gynnal o effaith yr ailgyfeirio ar borthladd Caerffili.

“Mae’r Aelod yn gywir,” meddai Michael Gove yn ateb i hynny. “Oes, mae yna lwybr newydd rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Ffrainc.

“Ond does dim tystiolaeth hyd yma bod hynny wedi effeithio rhyw lawer ar lif y fasnach [trwy Borthladd Caergybi].

“Byddaf yn siarad â chydweithwyr o Lywodraeth Cymru yn ddiweddarach brynhawn heddiw am bob dim y gallwn ei wneud i sicrhau bod Caergybi yn ffynnu yn y dyfodol.”

Distawrwydd cyn y storom?

Daeth y cyfnod pontio Brexit – blwyddyn, fwy neu lai, o gydymffurfio â rheolau’r Undeb Ewropeaidd – i ben ar Ragfyr 31.

Roedd yna gryn bryder y byddai’r drefn newydd – a’r gwaith papur ychwanegol – yn achosi dryswch a chiwiau mawr ym mhorthladdoedd y Deyrnas Unedig, ond prin yw’r dystiolaeth o hynny hyd yma.

Yn siarad gyda Golwg y wythnos hon mae Jeremy Miles, Gweinidog Brexit Cymru, wedi dweud bod “rhyw 20% o’r lorïau a’r tryciau sydd yn cyrraedd Caergybi wedi cael eu troi yn ôl”.

Er bod y porthladd wedi profi distawrwydd hyd yma, mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi ar gyfer cynnydd mewn traffig – mae golau, toiledau a chôns wedi’u gosod ar heol ger y porthladd.

Ac mae’r Llywodraeth yn disgwyl i bethau brysuro dros yw wythnosau nesa’.

Bylchau’n ymddangos ar silffoedd ffrwythau a llysiau… a rhybudd am darfu yng Nghaergybi

“Mae’r anhrefn wedi dechrau” rhybuddia arbenigwr cludo nwyddau

Deddf newydd yn “sarhad llwyr i’r setliad datganoli”

Iolo Jones

Fis diwetha’ cafodd Bil y Farchnad Fewnol ei basio yn Llundain er gwaetha’ gwrthwynebiad mawr gan seneddau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon