Mae Prif Weinidog Cymru wedi galw am “ail-luniad radical o’r Deyrnas Unedig” wrth lansio adroddiad am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.
Cafodd yr adroddiad ei lunio gan felin drafod wirfoddol ac annibynnol, ‘Ffederaliaeth Annibynnol’, ac ymhlith ei haelodau mae criw o’r Blaid Lafur.
Ymysg awduron yr adroddiad mae Sue Essex, cyn-weinidog Llywodraeth Cymru a chyn-Arweinydd Cyngor Caerdydd; a Gareth Hughes, newyddiadurwr a sylwebydd gwleidyddol.
Mae’r adroddiad, Ni, y bobl: Yr achos dros Ffederaliaeth Radical, yn galw am droi’r undeb yn “gyfundrefn wirfoddol” gan nodi bod yr angen am ddiwygio “hyd yn oed yn fwy brys” yn dilyn cyflwyno Bil Marchnad Fewnol Llywodraeth y DU, sydd, meddai’r adroddiad, yn gwadu “pwerau datganoli cynhenid” i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn dilyn Brexit ac yn hytrach yn eu rhoi i San Steffan.
Sofraniaeth
Dan y drefn a gynnigir gan yr adroddiad, byddai gan bob un o wledydd Prydain “sofraniaeth” sydd yna’n medru cael “eu cronni er dibenion pob un wlad”.
Yn ôl y ddadl mi fyddai Cymru, Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon, yn cael eu hystyried yn gydradd â’i gilydd pe bai’r Deyrnas Unedig yn ffederal.
Dyw’r syniad o Deyrnas Unedig ffederal ddim yn un newydd. Mae Mick Antoniw, Aelod Llafur o’r Senedd ac un o awduron yr adroddiad, yn cydnabod hynny, gan bwysleisio mai tanio sgwrs a dwysáu’r ddadl o fewn ei blaid yw diben yr adroddiad.
“Ar hyn o bryd mae yna gyfres o densiynau a rhwygiadau [yn gysylltiedig â’r undeb], ond does dim llawer o drafodaeth ynghylch sut siâp fydd ar ddyfodol y Deyrnas Unedig,” meddai.
“Sut siâp allai fod ar Gymru yn y dyfodol? Rhan o bwrpas yr adroddiad yma yw ceisio llenwi’r gwagle, a gosod fframwaith a all fod yn sail i drafodaeth am ddyfodol [gwledydd a rhanbarthau’r DU].
“Mae’n bwysig bod gennym weledigaeth glir ynghylch pa opsiynau sydd yna ar gyfer y dyfodol.
“Felly nid yw hyn yn ddatrysiad perffaith i’r sefyllfa sydd ohoni.
“Dyma gynnig ar gyflwyno’r egwyddorion a fydd yn sail i’r ddadl, a fydd yn sail i’r opsiynau a fydd yn dod i’r fei.”
“Ymateb y nawfed ganrif i broblem yn yr 21ain ganrif”
Roedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ynghlwm â lansiad y ddogfen ac wrth siarad yn y lansiad heddiw (dydd Iau 14 Ionawr) ychwanegodd ei lais at y galwad am “ail-luniad radical” o’r Deyrnas Unedig er mwyn iddi oroesi.
Dywedodd Mark Drakeford fod annibyniaeth yn “ymateb y nawfed ganrif i broblem yn yr 21ain ganrif” gan ategu argymhelliad yr adroddiad y dylid ffurfio undeb newydd yn seiliedig ar bedair gwlad gyfartal a sofran.
Dywedodd Mr Drakeford fod chwalu’r Deyrnas Unedig yn “berygl gwirioneddol a phresennol” ac mai’r ffordd orau o sicrhau dyfodol Cymru fyddai drwy “setliad datganoli pwerus ac sefydledig, o fewn Teyrnas Unedig lwyddiannus”.
Dywedodd: “Ni all fod yn amddiffyniad o’r status quo.
“Ni ddylid ildio i symlrwydd ‘unoliaeth’ neu ‘genedlaetholdeb’.
“Yn hytrach, rhaid ar ail-luniad radical o’r Deyrnas Unedig.
“Yr hyn y mae’n rhaid i ni ei greu yw undeb newydd – ac mae’r papur hwn yn rhoi llawer o’r syniadau i ni a fydd, yn syml, yn angenrheidiol os yw’r prosiect hwnnw am lwyddo.
“Mae’n seiliedig ar y cynnig syml ond radical iawn bod y Deyrnas Unedig yn gymdeithas wirfoddol o bedair gwlad, lle mae sofraniaeth wedi’i gwasgaru ymhlith pedair deddfwrfa a etholir yn ddemocrataidd.
“Cymaint â phosibl, dylid gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar fywydau beunyddiol pobl – a hynny mor agos at y bobl â phosibl, ond lle mae cydrannau’r Deyrnas Unedig yn dewis dod at ei gilydd i gyfuno adnoddau a rhannu enillion, yna mae hynny hefyd yn rhan bwerus o’r fargen.”
“Syniadau ddoe, gan blaid ddoe”
Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd Gweinidog yr Wrthblaid dros Weddnewid Gwasanaethau Cyhoeddus, Delyth Jewell AoS: “Syniadau ddoe gan blaid ddoe yw’r rhain.
“Cafodd Llafur dair blynedd ar ddeg mewn grym yn San Steffan i sicrhau datganoli radical i Gymru a methon nhw wneud hynny.
“Unwaith eto fe wnaethon nhw addo ‘estyniad radical o ddatganoli’ yn 2017, fel y gwnaeth Keir Starmer yn ystod ei ymgyrch arweinyddiaeth – dim ond i wadu hawl yr Alban i gynnal refferendwm newydd ar annibyniaeth.
“Dro ar ôl tro maen nhw wedi pleidleisio yn Senedd y Deyrnas Unedig yn erbyn mwy o bwerau i’r Senedd.
“Mae’r Blaid Lafur yn cael ei phasio’n gyflym gan ddigwyddiadau a dyheadau pobol yng Nghymru – gan gynnwys hanner eu haelodaeth – i weld gan ein cenedl â rheolaeth lawn dros benderfynu ar ein dyfodol ei hunain.
“Mae mwy a mwy o bobl eisiau annibyniaeth i Gymru ond os ydyn nhw eisiau hynny, mae’n rhaid iddyn nhw bleidleisio amdano yn etholiadau’r Senedd.
“Mae ein nod o sicrhau cyfiawnder cymdeithasol, dyfodol gwyrddach a chenedl sy’n rhydd o reolaeth San Steffan yn golygu bod Plaid Cymru yn gartref i bawb sy’n credu yn y datganoli mwyaf radical oll – Cymru annibynnol.”
“Obsesiwn”
Yn ei ymateb yntau, fe wnaeth gweinidog iechyd cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, gyhuddo Llafur Cymru o “obsesiwn” dros bwerau a beirniadu Mr Drakeford am ymwneud â lansiad yr adroddiad.
Dywedodd ar Twitter: “Trist gweld Llafur unwaith eto yn obsesiwn dros bwerau – pe baent ond yn canolbwyntio ar y rhai sydd ganddyn nhw’n barod.
“Dw i wedi fy synnu bod gan y Prif Weinidog amser i gyflwyno adroddiad o’r fath pan na all hyd yn oed ddweud wrthym faint o bobl 80 oed a throsodd yng Nghymru sydd wedi cael eu brechu.”
Gallwch ddarllen mwy am yr adroddiad yn Golwg yr wythnos hon, isod.