Mae melin drafod annibynnol yn gobeithio “tanio trafodaeth” am ddyfodol y Deyrnas Unedig (DU), a braenaru’r tir ar gyfer perthynas newydd rhwng ei chenhedloedd.

Mae eu hadroddiad, Ni, y bobl: Yr achos dros Ffederaliaeth Radical, yn galw am droi’r undeb yn “gyfundrefn wirfoddol”.

A dan y drefn yma byddai gan bob un o wledydd Prydain “sofraniaeth” sydd yna’n medru cael “eu cronni er dibenion pob un wlad”.

Yn ôl y ddadl mi fyddai Cymru, Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon, yn cael eu hystyried yn gydradd â’i gilydd pe bai’r Deyrnas Unedig yn ffederal.

Dyw’r syniad o DU ffederal ddim yn un newydd, ac mae Mick Antoniw, Aelod Llafur o’r Senedd ac un o awduron yr adroddiad, yn cydnabod hynny.

Mae yntau’n pwysleisio mai tanio sgwrs a dwysáu’r ddadl o fewn ei blaid yw diben yr adroddiad.

“Ar hyn o bryd mae yna gyfres o densiynau a rhwygiadau [yn gysylltiedig â’r undeb], ond does dim llawer o drafodaeth ynghylch sut siâp fydd ar ddyfodol y Deyrnas Unedig,” meddai.

“Sut siâp allai fod ar Gymru yn y dyfodol? Rhan o bwrpas yr adroddiad yma yw ceisio llenwi’r gwagle, a gosod fframwaith a all fod yn sail i drafodaeth am ddyfodol [gwledydd a rhanbarthau’r DU].

“Dyma ymdrech i danio trafodaeth ar lefel Ewropeaidd,” ychwanega. “Ac mae hefyd yn ymdrech i sicrhau bod y Blaid Lafur yn cynnal dadl fwy difrifol ynghylch hyn.

“Mae’n bwysig bod gennym weledigaeth glir ynghylch pa opsiynau sydd yna ar gyfer y dyfodol.

“Felly nid yw hyn yn ddatrysiad perffaith i’r sefyllfa sydd ohoni.

“Dyma gynnig ar gyflwyno’r egwyddorion a fydd yn sail i’r ddadl, a fydd yn sail i’r opsiynau a fydd yn dod i’r fei.”

Cafodd yr adroddiad ei lunio gan felin drafod wirfoddol ac annibynnol, ‘Ffederaliaeth Annibynnol’, ac ymhlith ei haelodau mae criw o’r Blaid Lafur.

Ymysg awduron yr adroddiad mae Sue Essex, cyn-weinidog Llywodraeth Cymru a chyn-Arweinydd Cyngor Caerdydd; a Gareth Hughes, newyddiadurwr a sylwebydd gwleidyddol.

Roedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ynghlwm â lansiad y ddogfen.

‘Ddim rhy hwyr’

Cwestiwn amlwg sy’n codi ydy: onid yw’n rhy hwyr i gynnig ffederaliaeth fel modd o achub y Deyrnas Unedig?

Mae lle i ddadlau bod Llywodraeth San Steffan eisoes wedi dechrau ar y gwaith o ganoli pŵer gyda Deddf y Farchnad Fewnol (deddf a gafodd ei galw’n “ymgais i gipio pŵer” gan weinidogion Cymru a’r Alban).

Ac mae lle cryf i ddadlau bod yr Alban yn prysur nesáu at annibyniaeth, a bod cynnig ffederaliaeth yn annhebygol o dawelu anfodlonrwydd â’r undeb yn y wlad honno.

Ond mae Mick Antoniw yn dal i fod yn optimistaidd am obeithion ffederaliaeth.

“Byddai’n well gen i pe bawn wedi dechrau symud [tuag at ffederaliaeth] yn gynt,” meddai. “Ond dyw’r ceffyl heb adael y stabl eto.

“Mae’r Deyrnas Unedig a’i modd o lywodraethu yn dal i fodoli. Mae’r [pedair gwlad] yn dal i rannu’r un trefniadau ariannol a threthi ac ati. Mae’r Deyrnas Unedig yn dal yno.”

Er hynny mae’n cydnabod bod tensiynau rhwng cenhedloedd yr undeb wedi cynyddu, a’i fod yn “hynod glir bod y perthnasau cyfansoddiadol a’r strwythur ddim yn gweithio”.

Mae yna densiynau pellach oddi fewn i Loegr, meddai, rhwng y rhanbarthau gwahanol, a thystiolaeth yw hyn “bod llywodraeth lle mae pŵer wedi’i ganoli ddim yn gweithio yn y byd modern”.

Pe bai’r undeb yn un ffederal ac yn ‘gydradd’, oni fyddai Lloegr yn dal i ddominyddu gan ei bod cymaint yn fwy, a gyda phoblogaeth sydd cymaint yn fwy?

“Does dim gwadu natur economeg fydol,” meddai Mick Antoniw. “Er enghraifft, does dim gwadu dylanwad America ar economi Ewrop, ac ati.”

Y Blaid Lafur ac annibyniaeth

I lawer o bobol rhaid mynd yn bellach na datganoli, ac yn bellach na ffederaliaeth. Dim ond annibyniaeth, meddai rhai, sy’n medru sicrhau llewyrch i Gymru.

Gyda’r mudiad annibyniaeth YesCymru yn mynd o nerth i nerth, mae cwestiynau wedi’u codi ynghylch perthynas y Blaid Lafur â’r mudiad hwnnw.

Mae grwpiau megis ‘Labour for an Independent Wales’ wedi’u ffurfio, ac mae sylwadau diweddar gan ffigyrau Llafur Cymru yn awgrymu bod eu hagwedd at annibyniaeth wedi cynhesu.

Dyw Mick Antoniw yn sicr ddim yn gefnogol o’r mudiad tros Gymru rydd, ac mae’n teimlo bod angen bod yn ofalus gyda’r gair ‘annibyniaeth’.

Mae’r diffiniad yn medru amrywio yn fawr, meddai, ac mi allech ddadlau – yn ôl ei resymeg yntau – mai math o annibyniaeth yw ffederaliaeth.

“Beth yw annibyniaeth? Mae gwlad yn annibynnol pan mae gan ei phoblogaeth yr hawl i ddewis ei dyfodol, a’r berthynas â gwledydd eraill, ac ati, y maen nhw’n ei deisyfu.

“Mae Llywodraeth Cymru, ac felly Llafur Cymru hefyd, o blaid undeb wirfoddol o genhedloedd.

“Nawr, i fi, safiad o blaid annibyniaeth yw hynna, oherwydd rydych yn galw am gyfundrefn lle mae pobol Cymru yn rhan ohoni o’u gwirfodd eu hunain.”

Pwysleisia ei fod yn gwrthwynebu’r agwedd y dylid mynnu annibyniaeth “jest er mwyn torri i ffwrdd o Loegr”.

Atega bod yn rhaid i gefnogwyr annibyniaeth “esbonio beth all ddigwydd [wedi unrhyw ymadawiad], a sut berthynas fyddai wedyn” â Lloegr.