Mae Cymdeithas y Cymod wedi ethol y cadeirydd ieuengaf yn ei hanes, ac yntau yn 26 oed.

Yn wreiddiol o Fro Morgannwg, etholwyd Rhun Wmffre Dafydd i olynu Mererid Hopwood.

Fe dyfodd ei ymwybyddiaeth am heddychiaeth wrth ymwneud â’r Urdd yn ifanc, eglura, cyn ychwanegu fod gan Gymdeithas y Cymod rhwng 500 a 600 o aelodau yng Nghymru.