“Mae Nwy Prydain, sy’n gwmni proffidiol, yn defnyddio’r pandemig fel esgus i dorri hawliau ac amodau gweithwyr.”

Dyna gri swyddog undeb y GMB sy’n cynrychioli 1,000 o weithwyr y cwmni yng Nghymru oedd ar streic ddechrau’r wythnos.

Centrica sy’n berchen Nwy Prydain, ac mae yn un o nifer o gwmnïau i geisio diswyddo gweithwyr a’u hail gyflogi ar delerau llai ffafriol.