Darn Barn: Huw Onllwyn

Mae addysg wedi bod yn lled anobeithiol eleni.

Nid oes unrhyw ddwy ysgol wedi rhannu’r un profiadau. Mae rhai wedi gorfod cau mwy nag eraill. Nid yw ysgolion mewn ardaloedd Covid uchel wedi gallu darparu cymaint o addysg ag ysgolion mewn ardaloedd mwy gwledig. Yn wir, dim ond 28% o‘u hamser ysgol y mae rhai disgyblion yng Nghaerdydd wedi‘i gael, ers haf diwethaf.