Mae pysgod yn nyfroedd Prydain yn “well ac yn hapusach” ar ôl Brexit, yn ôl Jacob Rees-Mogg.

Mae’r SNP wedi bod yn mynnu y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddigolledu pysgotwyr am oedi wrth allforio bwyd môr yn sgil Brexit, gyda chryn son am bysgotwyr yn colli miloedd o bunnoedd o stoc oherwydd yr oedi.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dweud mai “problemau cychwynnol” sydd wrth wraidd y mater.

Ac wrth ymateb i bryderon yr SNP, dywedodd Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Jacob Rees-Mogg, wrth ASau: “Yr hyn sy’n digwydd yw bod y Llywodraeth yn mynd i’r afael â’r mater hwn, yn delio ag ef cyn gynted â phosib, a’r peth allweddol yw bod gennym ein pysgod yn ôl.

‘Pysgod Prydeinig, pysgod hapusach’

“Maen nhw bellach yn bysgod Prydeinig – ac maen nhw’n bysgod gwell a hapusach oherwydd hynny.”

Ymyrrodd y Llefarydd Syr Lindsay Hoyle i nodi: “Yn amlwg does dim tystiolaeth argyhoeddiadol o hynny.”

Fe wnaeth arweinydd yr SNP yn Nhy’r Cyffredin, Tommy Sheppard AoS labelu’r hyn sy’n digwydd yn “drychineb pysgota Brexit” a gofynnodd am ddadl ar iawndal i ddiwydiant pysgota’r Alban.

“Cychod yn sownd yn yr harbwr, dinistrio llwythi o fwyd môr, y diwydiant yn colli £1 miliwn y dydd wrth i gwmnïau fynd i’r wal – i gyd o ganlyniad i fiwrocratiaeth Brexit a osodwyd gan y Llywodraeth hon,” meddai.

“Ac eto, pan ofynnwyd am hyn ddoe, gwrthododd y Prif Weinidog ateb.”