Mi all Plaid Cymru elwa o’r diddordeb cynyddol yng ngwleidyddiaeth Cymru, yn ôl arweinydd y blaid.

Mewn cyfweliad â’r Western Mail mae Adam Price yn dweud bod mwyfwy o bobol yn ymwybodol o fodolaeth Llywodraeth Cymru a’i gweinidogion o ganlyniad i’r argyfwng covid.

Ac mae’n credu y bydd canran y boblogaeth sydd yn pleidleisio yn etholiad y Senedd eleni ar ei uchaf erioed, a chyda’r diddordeb cynyddol yma, mae’n dweud bod yna “gyfle” i Blaid Cymru.

“Mae pobol yn ymwneud â gwleidyddiaeth Cymru, a chwestiynau ynghylch pwy ddylai rhedeg Cymru, yn fwy nag erioed o’r blaen,” meddai.

“Ac mae hynny’n rhoi cyfle i mi. Mae llygaid Cymru arnom mewn ffordd sydd heb fod yn wir ers 20 mlynedd – ac mae hynna’n esgor ar amodau perffaith i bob un ohonom gyfleu ein gweledigaeth.

“Mae gen i beth hyder yn fy ngallu i gyfleu’r weledigaeth yna, ond yn sicr mae gen i’r hyder mwyaf yn y weledigaeth ei hun.”

“Mi allwn ffurfio llywodraeth”

Dyw’r Blaid erioed wedi ennill mwyafrif yn y Senedd, a dyw hi erioed wedi bod y blaid fwyaf. Gan eithrio llywodraeth clymblaid ‘Cymru’n Un’ (2007-2011) â Llafur, d’yw hi erioed wedi bod mewn grym.

Mae Adam Price eisoes wedi gwrthod y posibiliad o glymbleidio â’r Ceidwadwyr, ac o fod yn bartner israddol mewn clymblaid â’r Blaid Lafur.

Yn siarad â’r Western Mail mae wedi rhannu ei optimistiaeth ynghylch gobeithion Plaid Cymru yn etholiad Senedd eleni.

“Yn 1999 cafodd rhai sylwebwyr sioc o’n gweld [ni’n ennill] Islwyn,” meddai. “Efallai bydd mwy nag un canlyniad syrpreis annisgwyl.”

D’yw Plaid Cymru ddim wedi ennill Islwyn ers hynny, ac mae wedi bod yn sedd ddiogel i’r Blaid Lafur ers 2003.

“Mi allwn ffurfio llywodraeth,” meddai yn ddiweddarach. “Mae gennym gynllun a fyddai’n ein rhoi mewn safle lle allwn i fod yn Brif Weinidog.”

Prif Weinidog pum mlynedd

Yn y darn mae Adam Price hefyd yn tynnu sylw at y Prif Weinidog a’r ffaith ei fod am roi’r gorau iddi yn 2023 – pan fydd wedi cwblhau pum mlynedd yn y rôl.

“Ar lefel personol mae gen i’r parch mwyaf tuag at Mark Drakeford,” meddai. “A dw i’n wastad wedi dweud pethau positif amdano yn gyhoeddus ac yn breifat.

“Ond â phob parch i’r Prif Weinidog, mae eisoes wedi dweud y bydd yn ymddeol hanner ffordd trwy dymor nesaf y Senedd.

“Felly os ydym ni’n mynd i ddewis Prif Weinidog a fydd yn mynd â ni trwy’r tymor cyfan ac ymhellach, rhaid i ni osod Cymru ar lwybr arall.

“Os dyna maen nhw eisiau, yna dw i’n credu y byddan nhw’n pleidleisio drosom ni.”