Mae’r Swyddfa Dywydd wedi dweud y gallai rhew ag eira amharu ar deithio yng Nghymru dros y penwythnos.

Daw hyn ar ôl i Storm Christoph achosi trafferthion mawr yng Nghymru.

Bydd rhybudd tywydd melyn yn dod i rym am bedwar brynhawn Gwener (Ionawr 22), gan ddod i ben am 10:30 fore Sadwrn (Ionawr 23).

Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhagweld y bydd hyd at dri centimetr o eira yn disgyn yn y rhan fwyaf o ardaloedd, ond yn rhybuddio y gallai 10-15cm o eira ddisgyn ym Mannau Brycheiniog ac Eryri.

Daeth rhybudd hefyd bod rhai ffyrdd a rheilffyrdd yn “debygol o gael eu heffeithio gan amseroedd teithio hirach gan wasanaethau ffyrdd, bysiau a threnau”.