Mae pobl wedi gorfod gadael eu cartrefi yn dilyn llifogydd yng ngogledd Cymru dros nos, ar ol i Storm Christoph achosi problemau dros rannau helaeth o Gymru, gan achosi llifogydd a thrafferthion ar y ffyrdd.

Gogledd-ddwyrain Cymru sydd wedi’i tharo waethaf gyda thrigolion yn Rhuthun a Bangor is y Coed ger Wrecsam yn gorfod gadael eu cartrefi.

Cafodd y ganolfan hamdden yn Rhuthun ei throi’n lloches i drigolion lleol dros nos ar ol i’r afon orlifo’i glannau.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi rhybudd coch am lifogydd, sy’n golygu perygl i fywyd, ym Mangor is y Coed.

Fe fu trafferthion hefyd yn Sir Gaerfyrddin, Porthmadog yng Ngwynedd, Machynlleth a’r Trallwng.

Rhybudd i gadw draw

Dywedodd Heddlu’r Gogledd bod eu swyddogion yn helpu’r Gwasanaeth Tân i symud pobl o’u cartrefi yn Rhuthun a Bangor is y Coed ac maen nhw wedi rhybuddio pobl i osgoi’r ardal.

“Yn anffodus, mae ’na bobl sydd ddim yn byw’n lleol yn gyrru i’r ardal ‘i weld y llifogydd’. Plîs peidiwch â rhoi pwysau ar ein hadnoddau drwy ychwanegu at y broblem,” meddai’r heddlu ar Twitter.

Mae’r heddlu hefyd yn annog trigolion Bangor is y Coed i fynd i Ysgol Sant Dunawd am loches ar ôl i rybudd coch am lifogydd gael ei gyhoeddi yn yr ardal.

Dywed Cyngor Sir Wrecsam eu bod yn “gweithio gyda’n partneriaid i ymateb i’r angen am lochesi dros dro i’r trigolion hynny sy’n debygol o gael eu heffeithio.”

Yng Nghymru mae 48 rhybudd am lifogydd mewn grym hyd at fore dydd Iau (Ionawr 21). Mae rhybudd am rew ac eira hefyd mewn mannau.

Dywedodd John Griffiths o’r Swyddfa Dywydd bod Aberllefenni yng Ngwynedd wedi cael y glaw trymaf yn sgil Storm Christoph, gyda 187.8mm o law yn disgyn dros y 56 awr ddiwethaf.

98 o ddigwyddiadau mewn 24 awr yn y Canolbarth a’r Gorllewin

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi dweud ei bod wedi cael eu galw i 98 o ddigwyddiadau a derbyn 140 o alwadau’n ymwneud â llifogydd mewn 24 awr.

Ymhlith y gorsafoedd prysuraf yn ystod y cyfnod hwn roedd Abercraf, gydag 11 digwyddiad, Llandeilo 8, Rhydaman 8, Caerfyrddin 7 a’r Trallwng 7.

Dywedodd Roger Thomas, y Dirprwy Brif Swyddog Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: “Dros y 24 awr ddiwethaf mae ein criwiau wedi bod yn eithriadol o brysur, ar ôl mynychu 98 o ddigwyddiadau’n ymwneud â llifogydd mewn amodau llym a brawychus.

“Er bod y nifer o ddigwyddiadau wedi dychwelyd i’r arfer, am y tro, mae rhybuddion tywydd yn dal i fod ar waith ac mae disgwyl i amodau oerach barhau drwy’r dyddiau nesaf.

“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’n criwiau gweithredol am eu gwaith rhagorol a diflino yn ystod 24 awr prysur a heriol iawn.”

Castell-nedd

Yn y cyfamser, mae “nifer fawr” o eiddo yn ardal Sgiwen, Castell-nedd, wedi cael eu gwacáu oherwydd llifogydd.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod y gwasanaethau brys yn bresennol ym Mharc Goshen yn dilyn adroddiadau bod nifer fawr o eiddo’n cael eu gwacáu oherwydd llifogydd.

Roedd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn annog aelodau o’r cyhoedd i osgoi’r ardal.

Rhybudd i deithwyr

Mae Heddlu’r Gogledd yn rhybuddio gyrrwyr: “Os ydych yn gwneud siwrne hanfodol bore ’ma plis gyrrwch yn ofalus. Mae lot fawr o law ac eira wedi disgyn dros nos ac mae nifer o’r ffyrdd wedi llifogi.

“Peidiwch â mentro allan oni bai fod wir angen a sicrhewch fod ganddoch ddillad a chyflenwadau priodol yn eich cerbyd.”