Mae Gwyddonydd o Fangor yn ceisio datgelu dirgelwch rhyfeddodau’r haul…

Trwy astudio ‘gwynt’ yr haul mi all y ddynol ryw ddatblygu ffyrdd newydd o greu ynni ar y ddaear.

Dyna yw gobaith Owen Roberts, Cymro sydd ynghlwm â phrosiect rhyngwladol i ddatblygu technoleg newydd i NASA, sef asiantaeth gofod yr UDA.