Mae dau Gymro Cymraeg wedi cychwyn busnes adeiladau dryms… ond mae lansiad swyddogol Tarian Drums wedi ei ohirio oherwydd y pandemig…

“Rydym ni wedi cael lot o ddiddordeb gan ddrymwyr Cymreig sy’n anfon negeseuon fel: ‘Ni ‘di bod yn aros am gwmni Cymreig sy’n adeiladu dryms!’” meddai Rhys Thomas wrth y Babell o’i gartref ym mhentref Pont-y-clun yn y Rhondda.