Paid â phrynu blodau iddi ar ddiwrnod Santes Dwynwen, os gweli di’n dda. Dydy hi ddim yn wanwyn eto, felly does dim blodau i fod heblaw am yr eirlysiau bychain sy’n tyfu dan y shetin. Dydy tusw gor-liwgar o flodau meirwon ddim i fod rhwng dau fel chi – gadewch i’r blodau bychain dyfu yn eu pwyll. Does dim angen cerdyn, am y byddai’r geiriau y byddet ti’n sgwennu oddi mewn iddo’n bethau ti’n eu dweud wrthi mewn gweithredoedd yn barod. Does dim angen aur nac arian, am eu bod nhw’n oer. Does dim ei