Mae’r ffotograffydd 26 oed yn creu ffilmiau byrion sy’n cael eu gwylio gan filoedd ac mae wedi ennill gwobr am ei waith. Yn wreiddiol o Benysarn ym Môn, mae yn byw yn Grangetown yn y brifddinas…

Sut wnaethoch chi gychwyn gwneud ffilmiau?

Es i i wneud cwrs Celf Sylfaen yn Coleg Menai, Bangor, yn gwneud llwyth o bethau fel peintio a tecstiliau a media… a wnes i ddisgyn mewn cariad efo gallu dweud stori trwy’r camera, ond yn yr edit fwy na dim. Roeddwn i wrth fy modd yn eistedd yna drwy’r dydd yn gwneud ffilms ar y cyfrifiadur.

Beth oedd eich ffilm gynta’ ar YouTube?

Wnes i fideo bach am addasu fy skateboard, a’r oll oeddwn i wedi’i wneud oedd tynnu’r olwynion i ffwrdd, a’i baentio fo – ac mi gafodd y fideo tua 300,000 o views.

Roedd o reit mindblowing ar y pryd!

Erbyn hyn mae gen i tua 35 o fideos ar sianel YouTube fi – Aledspicture.

Sut beth yw eich ffilm Grief, sydd wedi ennill gwobr?

Mae hi’n ffilm reit dywyll am golled, ac wedi cael ei hysbrydoli ga y profiad o golli fy Nain. Roedd o reit therapiwtig i’w wneud o, ac fe gafodd o reception reit dda.

Mi gafodd ei dangos mewn sawl gŵyl ffilm, gan gynnwys yn Efrog Newydd ac ennill gwobr yng Ngŵyl Ffilm SeeMôr Môn llynedd.

Mae’r ffilm ar fy sianel YouTube i.

Pam wnaethoch chi wneud ffilm am bwnc eitha’ trwm?

Yn y cyfnod pan oeddwn i’n gwneud fy ngradd Meistr, bu fy Nain farw… felly pan ddaeth hi’n amser i wneud ffilms, roeddwn i’n meddwl: ‘Beth sy gen i i’w ddweud am y byd? Beth sydd ar goll yn y byd?’

A wnes i ffilm am grief, achos bod o wedi dŵad o rywle reit onest, a dyna pam fod o wedi taro deuddeg efo pobol.

Hefyd efo Grief, roedd yna rywbeth da wedi dod o rywbeth drwg, ac wedi helpu i wneud i fi deimlo’n well.

Unrhyw gyngor i rai sydd eisiau rhoi cynnig ar greu ffilm?

Rhaid i chi feddwl ‘Be dw i eisiau ddweud? Be’ neu pwy sydd angen llais? Be’ sy’n bwysig i fi?’

Ac os mai’r ateb ydy ‘Dw i ddim yn gwybod’, tydach chi ddim angen gwneud ffilm.

Fe wnaethoch chi ffilm ddoniol ar y naw am ddysgu gyrru, i Hansh – ydach chi’n dysgu gyrru?

Yndw!

Dw i wrthi ers blynyddoedd ac mae o wedi bod yn hunllef llwyr!

Eto, efo’r fideo dysgu gyrru, dw i’n meddwl fod pobol yn licio fo achos bod o’n authentic.

Sut ddaeth y cyfle i greu cynnwys i Hansh?

Ges i waith ganddyn nhw ar ôl ffilmio pobol yn yfed a ballu yn Bae Caerdydd adeg y locdown cynta’.

Roedden nhw yn gadael coblyn o olwg ar eu holau, a wnes i roi’r fideo ar Twitter a dweud: ‘Pawb, gwnewch yn siŵr bo chi’n byhafio heno wrth gael hwyl – ewch a’ch sbwriel adref’.

A wnes i gael cynnig gwneud darn bach cyflym, doniol i Hansh am y locdown.

Beth yw eich gwaith naw tan bump?

Dw i’n gweithio tu ôl i ddesg yn Stiwdios Blaidd Cymru – lot o e-bostio, dipyn o admin a graphic design.

A lot o ateb ffôn. Getting a foot in the door by any means necessary

Sut brofiad oedd gweithio efo HMS Morris ar y fideo i ‘Myfyrwyr Rhyngwladol’?

Wnes i gael y gwaith o ffilmio’r fideo i ddechrau, fel dyn camera, cyn cynnig ei gyfarwyddo a’i editio fo.

Ges i lot o hwyl yn gwneud o ac roedd Heledd a Sam o’r band yn ddau athrylith, y math o bobol dw i wrth fy modd yn cael gweithio efo.

Beth yw eich atgof cynta’?

Eistedd mewn coets a mam yn fy ngwthio fi fyny i’r ysgol i nôl fy chwiorydd.

Hogyn mam ydw i – mae h’n un dda chwara teg.

Beth yw eich ofn mwya’?

Teulu yn marw… sy’n ateb reit dywyll!

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?

Dim lot. Dw i yn methu’r gym, achos bo fi ddim yn cael mynd.

Dw i’n seiclo i bob man, wnes i brynu beic am £50 ar facebook, ond s’gen i ddim clem pa fath o feic ydy o.

Beth sy’n eich gwylltio? 

Dw i’n trio peidio gwylltio – mantra da ydy never assume bad intent.

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol?

Stanley Kubrick, y film maker gora’ erioed.

A Casey Neistat. Fo ydy’r grandad o guerilla film making ac mae ei waith cynnar o ar YouTube yn wych.

A fyswn i wrth fy modd cael gweld Nain eto. Dynas ddoniol iawn.

Ac hefyd, Iesu Grist neu Duw, jesd i ofyn: ‘What’s all that about?!’

Gan bwy gawsoch chi sws orau eich bywyd?

Dw i ddim wedi cael lot o rai drwg, ond ella bod yr yn orau eto i ddod…

Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio? 

Dw i’n rhegi lot…

Beth yw eich hoff wisg ffansi? 

Un reit dda oedd gwisgo fyny gyda un o fy mêts fel y twins yn The Shining.

Unrhyw esgus i wisgo ffrog, a dw i yna!

Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?

Mae’r bobol sy’n byw drws nesaf yn licio gwneud pethau budur, yn reit uchel, trwy’r nos i gyd.

Not ideal pan ti angan codi am chwech y bora…

Ond, roeddwn i wedi twîtio amdano fo, ac roedd y ddynas wedi dechrau dilyn fi ar twitter.

Felly wnes i orfod mynd drwy’r tweets i gyd a chwalu rhai, rhag ofn…

Y peth doniol ydy, dw i heb glywed nhw wrthi ers stalwm rŵan…

Beth yw eich hoff ffilm?

Fyswn i’n gallu gwylio The Shinning bob dydd am weddill fy mywyd, dim problem!

Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?

Cael anfarth o weji gan fy chwaer hynaf tu allan i siop ym Mhenysarn, o flaen ei ffrindiau hi i gyd, pan oeddwn i tua wyth.

Ond gafodd hi andros o row gan Mam, felly all was well!