Gyda’r ffocws ar brynu’n lleol a chefnogi busnesau bach yng nghyfnod Covid, mae dylunydd o Aberystwyth yn awyddus i sicrhau ei bod yn rhoi llwyfan i grefftwyr ac artistiaid o Gymru yn ei gwaith…

“Mae lot o’r bobl dw i’n gweithio efo yn fenywod talentog a dw i’n teimlo’n gryf iawn bod angen eu cefnogi,” meddai Hannah Jones, a sefydlodd ei chwmni Tŷ Dylunio Cymru ddegawd yn ôl. “Dw i’n hoffi meddwl mai fi ydy’r gliw sy’n dod â phobl at ei gilydd!”