Mae Rodolfo Piskorski yn hanu o Frasil, yn byw yng Nghaerdydd, ac ef yw’r cyntaf i wneud ei brawf dinasyddiaeth Brydeinig yn y Gymraeg.

Ym mis Medi y llynedd mi lansiodd ymgyrch ar-lein i godi £1,500 er mwyn talu am y broses o ddod yn ddinesydd, ac yn y pendraw mi gododd dros £1,700.

Aeth ati wedyn i gwblhau’r prawf dinasyddiaeth yn y Gymraeg, gan ennill cryn sylw gan y wasg yng Nghymru a rhywfaint hefyd yn ei wlad enedigol.