Mae teulu’r pêl-droediwr Emiliano Sala wedi dweud eu bod nhw’n dal i aros am “atebion” wrth iddyn nhw nodi dwy flynedd ers iddo farw mewn damwain awyren yn y Sianel.
Roedd yr Archentwr 28 oed ar ei ffordd i Gymru ar ôl arwyddo cytundeb gwerth miliynau o bunnoedd i drosglwyddo o Glwb Pêl-droed Nantes yn Ffrainc i Ddinas Caerdydd.
Fe blymiodd yr awyren fechan roedd yn teithio ynddo i’r môr ger Guernsey ar Ionawr 21, 2019. Cafodd ei gorff ei ddarganfod yn ddiweddarach ond nid yw corff y peilot, David Ibbotson, 59, o Swydd Lincoln erioed wedi cael ei ddarganfod.
Mae disgwyl i David Henderson, yr honnir oedd wedi trefnu’r daith, sefyll ei brawf ym mis Hydref ar gyhuddiad o beryglu diogelwch awyren, yn ogystal â cheisio cludo teithiwr heb ganiatâd nac awdurdod i wneud hynny.
Nid yw’n bosib cynnal cwest i farwolaeth Emiliano Sala nes bod yr achos yn erbyn David Henderson wedi’i gwblhau ond mae teulu’r pêl-droediwr yn dweud eu bod nhw eisiau i ddyddiad gael ei bennu gan y crwner yn Dorset ar gyfer dechrau’r cwest.
Dywedodd y cyfreithiwr sy’n cynrychioli’r teulu, Daniel Machover, heddiw (Dydd Iau, Ionawr 21): “Mae’n drasiedi bod dwy flynedd wedi mynd heibio ers marwolaeth Emiliano a dy’n ni dal ddim yn gwybod sut yn union na pham y bu farw.
“Cynnal cwest yw’r unig ffordd i gael y gwirionedd llawn.”
Mae adroddiad gan y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr (AAIB) eisoes wedi dod i’r casgliad bod yr awyren wedi mynd i drafferthion am ei bod yn cael ei hedfan yn rhy gyflym a bod y peilot wedi colli rheolaeth wrth geisio osgoi’r tywydd gwael.
Roedd ymchwilwyr hefyd wedi dweud nad oedd David Ibbotson wedi cael hyfforddiant i hedfan gyda’r nos ac nad oedd wedi ymarfer yn ddiweddar, a bod hynny wedi cyfrannu at y ddamwain.