Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, wedi dweud fod Covid-19 yn parhau i fod yn fygythiad i Bencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Daw ei sylwadau ar ôl enwi ei garfan ar gyfer y gystadleuaeth ddo (dydd Mercher, Ionawr 20).
“Rydym yn ymwybodol iawn o’r bygythiad mae’r coronafeirws yn ei olygu i’r gystadleuaeth, yn enwedig oherwydd yr amrywiolyn newydd,” meddai Wayne Pivac.
“Byddwn yn cynllunio yn unol â hynny ac yn parchu unrhyw benderfyniadau a wneir yn ystod y gystadleuaeth.”
Y llynedd bu’n rhaid gohirio pedair gem olaf y Chwe Gwlad, gan gynnwys gêm olaf Cymru yn erbyn yr Alban, tan yr Hydref.
“Adeg gêm yr Alban y llynedd roedden ni wedi cynnal y captain’s run yn y stadiwm ac roedden ni nôl yn y gwesty pan cawson ni wybod bod y gêm wedi ei gohirio,” meddai.
“Dim ond paratoi ar gyfer y twrnamaint eleni gallwn ni ei wneud nawr.”
Mae Pencampwiraeth Chwe Gwlad y Merched a’r Bencampwriaeth Dan Ugain eisoes wedi eu gohirio.
Datblygu canllawiau’r Hydref
Eglurodd y bydd y tîm cenedlaethol yn datblygu ac yn dysgu o’r canllawiau Covid-19 oedd ar waith adeg gemau’r Hydref.
O ganlyniad i’r amrywiolyn newydd bydd chwaraewyr nawr yn cael eu profi ddwywaith yr wythnos.
“Rwy’n credu i ni brofi tua 700 o weithiau yn yr hydref ac fe ddaethon nhw i gyd yn ôl yn negyddol,” meddai.
“Y tro hwn, byddwn yn gwneud dwbl hynny a byddwn yn aros yn ein swigod yn hirach.
“Rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau’r risg.
Yn ystod gemau’r Hydref y llynedd roedd hawl gan chwaraewyr adael y swigen a dychwelyd adref o westy’r tîm am gwpl o ddiwrnodau bob hyn a hyn.
Fodd bynnag, roedd Undeb Rygbi Cymru yn awgrymu iddynt drin pawb fel pe bai ganddyn nhw’r feirws – yr un fydd y canllawiau ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
“Cyn yr Hydref bûm yn trafod gyda chynrychiolwyr o bêl-droed a chriced am effaith covid – roedden nhw nôl yn chwarae cyn ni – roedd lles meddyliol yn rhan bwysig o’r trafodaethau hynny, ac mae hynny yn dal i fod yn wir,” meddai Pivac.
Aros am gadarnhad am chwaraewyr sy’n chwarae yn Lloegr
Mae Undeb Rygbi Cymru yn aros i glywed gan Rygbi’r Uwchgynghrair, prif adran clybiau rygbi LLoegr, a fydd rhaid i chwaraewyr Cymru sydd yn chwarae i glybiau o Loegr ddychwelyd i’w clybiau yn ystod y Chwe Gwlad.
“Oherwydd Covid, hoffwn feddwl byddai synnwyr cyffredin yn cael ei ystyried – a hynny er bod y rheolau yn dweud fel arall.
“Rydym wedi gofyn am eglurder o ran a fydd rhaid i chwaraewyr fynd yn ôl a pha mor aml bydd rhaid iddynt ddychwelyd.”
Mae chwe chwaraewr yng ngharfan Cymru yn chwarae i glybiau yn Lloegr – Tomas Francis, Will Rolwlands, Taulupe Faletau, Dan Biggar, Callum Sheedy a Louis Rees-Zammit.
“Gyda’r hyn sy’n digwydd, pobl yn mynd i mewn ac allan o glybiau ac yn ôl i’w cymunedau, neu i mewn ac allan o un swigen i’r llall, rwy’n credu mai dyna ble mae’r feirws yn dechrau cael ei drosglwyddo o berson i berson,” ychwanegodd Wayne Pivac.
Bydd carfan Cymru yn cyfarfod ddydd Llun, Ionawr 25, cyn wynebu Iwerddon ar benwythnos agoriadol y Bencampwriaeth fis Chwefror.