Mae’r Chwe Gwlad wedi cadarnhau na fydd Pencampwriaeth y Merched na’r Bencampwriaeth Dan Ugain yn mynd yn cael eu cynnal mis nesaf.

Mae’r ddwy bencampwriaeth fel arfer yn cael eu cynnal yr un pryd a’r dynion – fodd bynnag does dim newid i amserlen cystadleuaeth y dynion, a fydd yn dechrau ar Chwefror 6.

Un o’r prif resymau am y penderfyniad yw fod y rhan fwyaf o chwaraewyr timau merched Cymru, Iwerddon, yr Alban a’r Eidal yn chwaraewyr amatur, sydd wedi achosi problemau yn ymwneud â phrofi, ffurfio swigod a theithio.

Mae gan Loegr dîm merched proffesiynol, tra bod tîm merched Ffrainc yn lled-broffesiynol.

Daw’r penderfyniad ar ôl i i drefnwyr y gystadleuaeth orfod canslo tair gêm olaf Pencampwriaeth Chwe Gwlad y Merched y llynedd oherwydd y coronafeirws.

Tarfu ar flwyddyn gyffrous i rygbi merched

Roedd disgwyl i’r gystadleuaeth fod yn ddechrau ar flwyddyn gyffrous i rygbi merched wrth iddynt baratoi ar gyfer Cwpan y Byd, sydd i fod i gael ei chynnal yn Seland Newydd fis Medi.

Bydd Cymru yn wynebu Seland Newydd ac Awstralia yn y gystadleuaeth honno.

“Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo a datblygu rygbi ar bob lefel, yn enwedig gêm y merched,” meddai Ben Morel, Prif Swyddog Gweithredol Rygbi’r Chwe Gwlad.

“Nid yw hwn yn benderfyniad rydym wedi ei wneud yn gyflym ac rydym yn hyderus y byddwn, wrth edrych ar ffenestr ddiweddarach, mewn sefyllfa gryfach o lawer i gynnal y ddwy bencampwriaeth wych yma, gan ddarparu rygbi cyffrous i gefnogwyr, a sicrhau’r amgylchedd diogel i’w llwyfannu ar gyfer ein chwaraewyr.”

Mae disgwyl i Bencampwriaeth y Merched gael ei chwarae yn y gwanwyn neu ddechrau’r haf.

Bydd y Gystadleuaeth dan 20 hefyd yn cael ei haildrefnu, gyda’r corff llywodraethu’n dweud eu bod yn disgwyl cyhoeddi manylion llawn am amseroedd a fformatau y ddwy gystadleuaeth erbyn diwedd mis Ionawr.

Dim newid i brif gystadleuaeth y dynion

Mae’r Chwe Gwlad wedi cadarnhau y bydd Pencampwriaeth Chwe Gwlad y dynion yn mynd yn ei blaen.

Daw hyn wedi i drefnwyr y bencampwriaeth drefnu cyfarfod brys yn ddiweddar i geisio argyhoeddi llywodraeth Ffrainc y gall y bencampwriaeth fynd yn ei blaen yn ddiogel.

Bu rhaid i drefnwyr rygbi Ewrop (EPCR) atal gemau Cwpan Pencampwyr Heineken a’r Cwpan Her ar ôl i lywodraeth Ffrainc ddweud na ddylai cybiau chwarae yn y gystadleuaeth fis Ionawr.

Bydd tîm dynion Cymru yn croesawu Iwerddon i Stadiwm Principality ar benwythnos agoriadol y gystadleuaeth.