Mae capten Cymru Alun Wyn Jones yn “gwneud cynnydd da” wrth adfer o anaf i’w ben-glin, yn ôl rheolwr y Gweilch, Toby Booth.

Cafodd Alun Wyn Jones ei anafu yn ystod buddugoliaeth Cwpan Cenhedloedd yr Hydref Cymru dros yr Eidal ddechrau mis Rhagfyr.

Awgrymodd y rhagolygon cychwynnol y byddai allan am ddau fis neu fwy, gan godi amheuon ynghylch ei argaeledd ar gyfer gemau Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Iwerddon a’r Alban fis nesaf.

Mae clo 35 oed y Gweilch wedi gwneud 152 o ymddangosiadau gêm brawf, sy’n record byd, i Gymru a’r Llewod ac mae’n rhan hollbwysig o gynlluniau Chwe Gwlad prif hyfforddwr Cymru Wayne Pivac.

Mae gêm agoriadol Cymru yn erbyn Iwerddon wedi’i threfnu ar gyfer Chwefror 7 a gallai Alun Wyn Jones fod yn holliach erbyn hynny.

“Mae e’n gwneud cynnydd da,” meddai Toby Booth.

“Fel arfer, gyda’r holl anafiadau canol-i-hirdymor hyn, yr hyn sy’n digwydd yw eich bod yn gwneud lot o gynnydd a’r 15 y cant diwethaf yw’r darn anodd.

“Dyna pryd rydych chi’n dychwelyd i’r man lle rydych chi’n ddigon ffit i chwarae ac yn gallu hyfforddi’n llawn.

“Mae’n credu ei fod ar yr amserlen gywir, rydyn ni’n meddwl ei fod ar yr amserlen gywir, felly rydyn ni i gyd yn cydweld.”

Dim ond tri o’u 10 gêm brawf enillodd Cymru o dan Wayne Pivac y llynedd, gan orffen yn bumed ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.