Bydd Cefnwr Cymru, Liam Williams, yn colli gêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ôl cael ei wahardd am dair gêm.

Cafodd ei anfon o’r cae ar ôl 37 munud wrth i’r Gleision guro’r Scarlets o 29-20 yng Nghaerdydd ar Ionawr 9.

Rhuthrodd y chwaraewr rhyngwladol i mewn i dacl ar y blaenasgellwr Shane Lewis-Hughes â’i ben mewn sgarmes.

Cafodd y drosedd ei gweld gan y dyfarnwr fideo, ac fe gafodd e gerdyn coch.

Felly ni fydd Liam Williams ar gael ar gyfer ymweliad Iwerddon â Chaerdydd ar Chwefror 7.

Dywedodd datganiad gan y PRO14: “Derbyniodd y chwaraewr ei fod wedi cyflawni gweithred o chwarae budr a oedd yn haeddu cerdyn coch.

“Penderfynwyd bod y drosedd hon yn haeddu gwaharddiad pedair wythnos.

“Penderfynodd y swyddog barnwrol fod ffactorau, gan gynnwys edifeirwch y chwaraewr, yn golygu fod y gosb yn haeddu un wythnos o ostyngiad.

“Mae’r chwaraewr wedi’i wahardd rhag chwarae rhan yn y tair gêm.”