Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi cadarnhau y bydd yr amddiffynnwr ifanc Brandon Cooper allan am rai misoedd ar ôl anafu ei ffêr wrth ymarfer.

Daw’r cadarnhad wrth i’r Elyrch baratoi i deithio i Barnsley yn y Bencampwriaeth nos Sadwrn (Ionawr 16, 7.45yh).

Bydd y newyddion yn ergyd i’r chwaraewr ac i’r clwb ar ôl iddo ddychwelyd o gyfnod ar fenthyg yng Nghasnewydd yn ddiweddar, a’r awgrym oedd y byddai’n cael ei gyfle yn y tîm cyntaf yn ail hanner y tymor.

“Ry’n ni’n siomedig drosto fe,” meddai Steve Cooper.

“Roedd yn rhywbeth mor ddiddrwg wrth ymarfer.

“Fe gafodd ei anafu’n gwneud yr hyn mae e’n ei wneud, ac anaf i’w ffêr gafodd e.

“Mae e mewn esgid ar hyn o bryd, ac yn gweld arbenigwr heddiw.”

Rhestr anafiadau

Mae enw Brandon Cooper, felly, wedi’i ychwanegu at restr hir o anafiadau ac ymadawiadau’r Elyrch.

Mae’r clwb yn chwilio am golwr newydd yn dilyn anaf i Steven Benda, ac mae Steve Cooper wedi cadarnhau bod y clwb yn agos at ddenu golwr newydd yn barhaol.

“Mae Steven Benda wedi cael llawdriniaeth yr wythnos hon,” meddai’r rheolwr.

“Ac fe gafodd Tivonge [Rushesha] dipyn o anaf i’w ben-glin ryw fis yn ôl nawr.

“Mae e wedi cael triniaeth, felly dyw pethau ddim wedi bod yn wych o ran y bois ifainc, ond maen nhw ar y trywydd iawn o ran gwella nawr.

“Cael a chael yw hi o ran Ryan Bennett a Joel [Latibeaudiere] ar ôl cael anafiadau a byddwn ni’n rhoi pob cyfle iddyn nhw fod ar gael ar gyfer y penwythnos.”

Trosglwyddiadau

Ar ben yr anafiadau, mae’r Elyrch hefyd wedi colli sawl chwaraewr sydd wedi dychwelyd i’w rhiant-glybiau – Morgan Gibbs-White (Wolves), Kasey Palmer (Bristol City) a’r ymosodwr Viktor Gyökeres sydd wedi’i alw’n ôl gan Brighton.

“Mae’n sefyllfa gymhleth gyda sefyllfa Covid-19 a llawer o chwaraewyr ar fenthyg yn cael eu galw’n ôl a’r ffaith nad ydyn ni cweit yn gwybo sut fydd yr amserlen yn edrych wrth i gemau gael eu gohirio.

“Mae ambell beth ar y gweill, ac rydyn ni’n gobeithio cau pen y mwdwl arnyn nhw ond tan hynny, bydda i’n gweithio gyda’r chwaraewyr sydd yn yr adeilad a dw i’n hapus iawn gyda’r ffordd mae pethau’n mynd.”

Yn ôl Steve Cooper, mae Viktor Gyökeres eisoes wedi ffarwelio â’i gyd-chwaraewyr yn Abertawe.

“Mae e’n foi da iawn ac mae yna chwaraewr da y tu fewn iddo fe,” meddai.

“Roedd yn un o’r chwaraewyr hynny ar fenthyg a ddaeth ychydig yn hwyrach na’r hyn roedd pawb ei eisiau.

“Aeth e ar ddyletswydd ryngwladol a chael ei heintio â Covid.

“Mae’r tîm wedi bod yn chwarae’n dda ac roedd e’n hapus iawn yma, ond roedd e hefyd eisiau chwarae mwy o bêl-droed.

“Rydyn ni’n dymuno’n dda iddo fe.”

Wythnos olaf ‘wyllt’

Mae’n amlwg erbyn hyn bod angen golwr, chwaraewr canol cae ymosodol ac ymosodwr ar yr Elyrch cyn bod y ffenest drosglwyddo’n cau.

Y gred yw fod yr Elyrch am ddenu Ben Hamer o Huddersfield yn barhaol yfory (dydd Gwener, Ionawr 15).

Ac yn ôl Steve Cooper, gallai wythnos ola’r ffenest fod yn un “wyllt”.

“Dw i’n sicr yn credu y gallai’r diwrnodau olaf fod yn rhai gwyllt a dros y lle i gyd,” meddai.

“Mewn byd delfrydol, rydych chi bob amser eisiau masnachu reit ar y dechrau.

“Rydyn ni’n agos at ddenu golwr, a dw i’n credu bod hynny’n gwestiwn amlwg.

“Dw i’n hapus i ddweud yn gyhoeddus ein bod ni’n hapus gyda Lewis Webb, golwr ifanc sydd â llawer o botensial, ond ai dyma’r amser iawn iddo fe?

“Bydd e’n sicr yn cefnogi ei hun ond gallen ni wneud y tro â golwr arall hefyd, ac rydyn ni’n agos at wneud hynny.”

Yn y cyfamser, mae’r clwb hefyd yn agos at ymestyn cytundeb y chwaraewr canol cae Jay Fulton.