Mae rheolwr Caerdydd, Neil Harris, wedi galw ymdrechion i atal pêl-droedwyr rhag dathlu goliau yn “jôc”.

Mae clybiau pêl-droed wedi cael cyfarwyddyd bod “rhaid osgoi ysgwyd llaw, pump uchel a chofleidio”.

Ysgrifennodd Prif Weithredwr yr English Football League, Trevor Birch, at glybiau yn eu rhybuddio rhag “bod yn esgeulus” gyda phrotocolau Covid-19.

Ond mae Neil Harris yn credu ei bod hi’n amhosib rheoli chwaraewyr sy’n dathlu sgorio gôl.

“Os ydyn nhw’n poeni am hynny, stopiwch y gêm.

“Ond doedden nhw ddim mor bryderus â hynny’r wythnos diwethaf pan wnaethon nhw wneud i dimau chwarae yng Nghwpan yr FA gyda phlant yn y tîm. I fod yn onest, mae’n jôc.

“Unwaith maen nhw ar y cae, gadewch i’r chwaraewyr fwrw ymlaen gyda’r gêm. Rydym yn cael ein profi ddwywaith yr wythnos.”

“Greddf naturiol”

Ychwanegodd Neil Harris: “Mae pawb yn bod yn ofalus gyda’r mesurau rydym ni’n eu dilyn, i alluogi pêl-droed i barhau, oherwydd ei bwysigrwydd mewn cymdeithas ac o ran iechyd meddwl.

“Mae’n bwysig i bobol allu gwylio pêl-droed ar y teledu ar hyn o bryd.

“Ond mae rhai elfennau o’r gêm sy’n anodd iawn i’w rheoli, ac mae dathlu gôl yn un o’r rheini – mae’n reddf naturiol.

“Rydyn ni i gyd yn gwneud ein gorau… ond mae rheoli dathlu goliau yn anodd iawn.”

Mae Harris yn gobeithio cael Kieffer Moore, ymosodwr Cymru, yn holliach ar gyfer gêm gartref ddydd Sadwrn (Ionawr 16) yn erbyn ceffylau blaen y Bencampwriaeth, Norwich City.

Bu Kieffer Moore yn absennol oherwydd anaf ers i Abertawe guro Caerdydd ar Ragfyr 12.