Bydd y Scarlets a Gleision Caerdydd yn wynebu ei gilydd am yr eildro mewn pythefnos.
Mae’r gêm oedd i fod i gael ei chwarae fis Mawrth, wedi ei haildrefnu i gael ei chwarae ym Mharc y Scarlets nos Wener nesaf (Ionawr 22)
Yn wreiddiol roedd y ddau dîm o Gymru i fod i deithio i Ffrainc y penwythnos yma – ond cafodd gemau’r Scarlets yn erbyn Toulon a’r Gleision yn erbyn Stade Francais eu gohirio gan drefnwyr rygbi Ewrop.
Bydd y gêm ddarbi yn rhoi amser i chwaraewyr baratoi ar gyfer y Chwe Gwlad, ac yn sicrhau nad yw cefnwr y Scarlets Liam Williams yn methu mwy nag un gêm i’r tîm cenedlaethol.
Bydd Liam Williams yn methu’r gêm yn erbyn y Gleision, gêm gartref yn erbyn Leinster a gêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ôl cael ei wahardd am dair gêm.
Yr ornest ym Mharc y Scarlets bydd hefyd gêm gyntaf Dai Young nôl wrth y llyw gyda Gleision Caerdydd, ar ôl i’r cyfarwyddwr rygbi dros dro gymryd lle’r prif hyfforddwr John Mulvihill .