Mae Abertawe wedi arwyddo gôl-geidwad Huddersfield, Ben Hamer, ar gytundeb 18 mis am ffi sydd heb gael ei ddatgelu.

Bydd Hamer, 33, yn cystadlu am grys y golwr yn Abertawe gyda Freddie Woodman, ar ôl i’r Elyrch golli Steven Benda i anaf.

Mae Ben Hamer wedi chwarae 17 o weithiau i Huddersfield y tymor hwn ac mae wedi gwneud mwy na 350 o ymddangosiadau yn ystod ei yrfa.

Mae wedi treulio cyfnodau yn chwarae i Gaerlŷr, Charlton, Brentford, Derby, Bristol City a Crawley.

Datgelodd Steve Cooper fod Abertawe wedi bod yn cadw llygad ar Ben Hamer ers sbel.

“Mae Ben yn gôl-geidwad wnaethon ni dreulio cryn dipyn o amser yn edrych arno yn ystod yr haf,” meddai Steve Cooper.

“Rydym yn cael gôl-geidwad profiadol gyda phrofiad o fod yn rhif un a rhif dau.

“Rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n dod â’r cymeriad cywir i mewn.”