Bydd gêm bêl-droed Abertawe yn Barnsley yn fyw ar Sky Sports heno (nos Sadwrn, Ionawr 16), wrth i’r Elyrch geisio dal eu gafael ar eu lle ymhlith y timau dyrchafiad awtomatig.

Daw’r gêm fis yn unig ar ôl i’r ddau dîm herio’i gilydd ar gae erchyll Stadiwm Liberty cyn i’r tir newydd gael ei osod.

Bryd hynny, roedd yr Elyrch yn fuddugol o 2-0 wrth i Jamal Lowe rwydo, gyda’r ail gôl yn dod gan Victor Adeboyejo i’w rwyd ei hun.

Ond mae canlyniadau Barnsley wedi gwella cryn dipyn ers hynny, wrth i dîm Valerien Ismael ennill chwech allan o’u naw gêm diwethaf i gadw eu gobeithion o gêm ail gyfle’n fyw.

Newyddion yr Elyrch

Mae amheuon o hyd am ffitrwydd yr amddiffynwyr Joel Latibeaudiere a Ryan Bennett wrth i’r ddau barhau i wella o anafiadau i’w coesau.

Mae’r amddiffynnwr canol Brandon Cooper a’r golwr Steven Benda allan am rai misoedd (ffêr), ac mae’r cefnwr de Tivonge Rushesha hefyd allan am gyfnod hir.

Ar ôl symud o Huddersfield, mae disgwyl i’r golwr Ben Hamer gael ei enwi yn y garfan.