Mae ymosodwr Cymru Kieffer Moore yn gobeithio dychwelyd i dîm Caerdydd heddiw (dydd Sadwrn, Ionawr 16) wrth iddyn nhw groesawu Norwich i Stadiwm Dinas Caerdydd yn y Bencampwriaeth.
Dydy Moore ddim wedi chwarae ers anafu llinyn y gâr yn y gêm ddarbi yn erbyn Abertawe ar Ragfyr 12.
Byddai cael Moore yn ôl yn hwb i’r Adar Gleision wrth iddyn nhw herio’r tîm sydd ar frig yr adran.
Cael a chael fydd hi hefyd i Greg Cunningham a Sean Morrison, ac mae Sol Bamba allan hefyd ar ôl cael diagnosis o ganser.
Dydy’r cefnwr Jordi Osei-Tutu ddim wedi chwarae ers diwedd mis Hydref o ganlyniad i anaf i linyn y gâr, ond mae disgwyl iddo fe gael prawf ffitrwydd ar ôl chwarae 40 munud o gêm y tîm dan 23 ganol yr wythnos.
Covid-19 ac anafiadau i Norwich
Mae Bali Mumba a Xavi Quintilla, ill dau, wedi profi’n bositif ar gyfer y coronafeirws, sy’n ychwanegu at broblemau anafiadau Norwich, sydd eisoes heb eu golwr Tim Krul a’r ymosodwr Adam Idah.
Mae’r ddau hefyd wedi cael profion coronafeirws positif, gyda sawl aelod o staff hyfforddi’r clwb hefyd wedi cael eu heffeithio.
Mae Norwich heb Lukas Rupp a Josh Martin oherwydd salwch, yn ogystal â Christoph Zimmermann a Marco Stiepermann.
Ond gallai Kieran Dowell ddychwelyd i’r garfan ar ôl cael llawdriniaeth ar ei ffêr.