Bydd tîm pêl-droed Casnewydd yn croesawu Salford ar gyfer gêm gynghrair gyntaf 2021 yn Rodney Parade heddiw (dydd Sadwrn, Ionawr 16).

Dyma’r drydedd gêm rhwng y ddau dîm y tymor hwn, ac mae dau bwynt yn unig yn eu gwahanu nhw yn yr Ail Adran.

Collodd Salford un gêm yn unig allan o naw ar ddechrau’r tymor, gan ennill pedair ohonyn nhw cyn colli dwy gêm o’r bron.

Mae Salford driphwynt yn unig oddi ar y brig ar ôl curo Scunthorpe oddi cartref yn eu gêm ddiwethaf.

Y timau

Fe wnaeth sawl un o chwaraewyr Casnewydd ddychwelyd yr wythnos ddiwethaf wrth iddyn nhw chwarae yn erbyn Brighton yng Nghwpan FA Lloegr.

Yn eu plith roedd Joss Labadie a Ryan Taylor, gyda David Longe-King yn chwarae am y tro cyntaf ers ymuno â thîm Mike Flynn yn yr haf.

Gallai Jack Evans, Jake Scrimshaw ac Owen Windsor gael eu dewis am y tro cyntaf ers ymuno â’r clwb ar fenthyg cyn diwedd y ffenest drosglwyddo ddiweddaraf.

Mae amheuon am ffitrwydd Robbie Wilmott ar ôl iddo ddod oddi ar y cae yn y gêm gwpan.

Mae Salford heb Richie Towell a Darren Gibson ar gyfer y daith i Gasnewydd.