Fe fydd tîm pêl-droed Dover yn gobeithio cynnal eu record ar y Cae Ras yn eu chweched ymweliad â chartref Wrecsam.
Daeth rhediad tîm Andy Hessenthaler o bum colled o’r bron i ben nos Fawrth (Ionawr 12) wrth i’w gêm yn erbyn Boreham Wood orffen yn gyfartal 1-1.
Mae Dover wedi cael dechrau pytiog i’r tymor – hon oedd eu hail gêm gynghrair yn unig ers Tachwedd 21 o ganlyniad i’r coronafeirws a dau gyfnod o orfod hunanynysu i’w chwaraewyr.
Mae Wrecsam wedi chwarae chwe gwaith yn ystod y cyfnod hwnnw, gan ennill dwy gêm, colli tair a’r llall yn gorffen yn gyfartal.
Ond dydy Wrecsam ddim wedi chwarae eleni wrth i gemau gael eu gohirio.
Roedd y gêm hon i fod i gael ei chynnal ar Ragfyr 12.
Er bod tîm Dean Keates yn 16eg yn y Gynghrair Genedlaethol, a hynny ar ôl ennill chwe gêm allan o 14, dim ond triphwynt sydd rhyngddyn nhw a’r safleoedd ail gyfle ac mae ganddyn nhw gemau wrth gefn.
Cafodd gêm Wrecsam yn erbyn Dover ar y Cae Ras ei chanslo’r tymor diwethaf o ganlyniad i’r coronafeirws, ac roedd Dover yn fuddugol o 2-1 yn y gêm gyfatebol ar eu tomen eu hunain.
Tîm Wrecsam
Gallai Anthony Jeffrey herio’i hen glwb heddiw ar ôl gadael Dover ar ddiwedd y tymor diwethaf a symud i’r Cae Ras ym mis Medi.
Pe bai’n cael ei ddewis, hon fydd gêm gynghrair rhif 150 ei yrfa.
Mae e wedi chwarae wyth gêm i Wrecsam.